Newyddion S4C

Yr actores Jessica Hynes 'am wneud ei mam yn hapus' drwy siarad Cymraeg

14/05/2023
Jessica Hynes

Gwneud ei mam yn hapus fydd nod Jessica Hynes wrth iddi gymryd rhan yng nghyfres newydd Iaith ar Daith ar S4C.

Mae’r actores, cyfarwyddwraig a sgriptwraig Jessica Hynes yn adnabyddus i filiynau fel ‘Cheryl from next door’ yn y rhaglen boblogaidd The Royle Family.

Mae hi hefyd wedi serennu ar y sgrin fawr mewn nifer o ffilmiau fel Bridget Jones.

Ond er iddi gael ei magu yn Brighton cyn iddi symud i Lundain, mae gwreiddiau ei chyndeidiau’n ddwfn yng Nghymru.

Un o Laneilian ger Bae Colwyn oedd ei Nain, a’r dyhead i fedru cyfathrebu yn Gymraeg gyda’i mam yw ei sbardun dros ddysgu’r iaith.

“Mae fy mam yn siarad Cymraeg” meddai Jessica, sydd eisoes wedi treulio tri mis yn dysgu’r iaith.

“Os ydw i’n llwyddo i ddweud unrhyw beth yn Gymraeg iddi, mi fase hi’n hapus iawn. Dwi’n gobeithio fydda i’n medru.”

‘Laff’

I’w helpu hi ar ei ffordd, cynnig cymorth a gosod sawl her bydd actores arall – Lisa Palfrey.

Tydi’r ddwy actores erioed wedi cwrdd o’r blaen, ond dywedodd Lisa Palfrey ei bod hi’n edrych ymlaen at roi help llaw i Jessica gydag ambell her ieithyddol - a mwy - ar hyd y daith.

“Sa’i erioed wedi cwrdd â Jessica o’r blaen ond dwi’n meddwl bod hi’n fenyw hynod o dalentog, dwi’n siŵr bod hi’n hynod o ddoeth, a dwi’n siŵr bod hi’n laff – y cyfuniad perffaith!” meddai Lisa.

“Dwi’n edrych ymlaen i deithio rownd gogledd Cymru, achos dyma lle mae ei theulu’n dod. A jest cael lot fawr o hwyl yn dangos rhyfeddodau gogledd Cymru iddi.”

Heriau

Yn ystod eu siwrne, bydd y ddwy’n ymweld ag Amgueddfa Lloyd George ym mhentref Llanystumdwy, sy’n gartref i ystafell ddosbarth o Oes Fictoria, ble maen nhw’n cael clywed hanes y Welsh Not.

Fe gawn nhw flas o ddiwylliant wrth glywed barddoniaeth a cherddoriaeth werin fyw yn nhafarn y Glôb ym Mangor, a chyfle i gwrdd â chriw gweithgar Cangen Llanrug o Ferched y Wawr lle mae’r ddwy’n cael cyfle i feirniadu gwaith llaw'r aelodau.

Yn nhŷ lleiaf Prydain yng Nghonwy, y dasg o werthu tocynnau i ymwelwyr sy’n wynebu Jess.

Ond mae’r her fwyaf i ddod, a hynny yn eglwys pentref Llaneilian, lle mae mam Jess a’i chefnder Chris yn eu croesawu.

Bydd Iaith ar Daith ar S4C Nos Sul, 14 Mai 20.00 ac ar gael ar alw ar S4C Clic a  BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.