Newyddion S4C

S4C

Ap newydd i ddysgu’r Gymraeg i blant ifanc a’u rhieni

NS4C 14/05/2023

Mae ap newydd wedi ei lansio sy’n anelu i helpu dysgu Cymraeg i blant ifanc a’u rhieni neu warchodwyr.

Mae ap Cywion Bach yn cydfynd gyda’r gyfres Cywion Bach sydd i’w gweld ar Cyw, S4C. 
 
Mae’r ap, fel y gyfres, wedi’i gynllunio i gyflwyno ystod o eiriau cyntaf Cymraeg i blant bach cyn oedran ysgol 0-3 mlwydd oed.

Hefyd mae'n anelu i helpu rhieni a gwarchodwyr di-Gymraeg sydd am ddysgu’r iaith gyda’u plant. 

Mae’r ap wedi ei ddylunio i ddysgu Cymraeg i rieni ochr yn ochr â’u plant. 
 
Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pob gair ar yr ap, pob un yn gofyn am ryngweithio tap syml, ac opsiwn llusgo ar gyfer plant hŷn yr ystod oedran. 

Mae’r gweithgareddau agored yn gadael i blentyn chwarae a darganfod am ba mor hir y mae’n dymuno, yna bydd y Cywion Bach yn dod i gynnig y gweithgaredd nesaf. 
 
Yn ogystal â’r ap, mae gwasg llyfrau'r Lolfa wedi cyhoeddi llyfr ‘Cywion Bach’. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.