Mark Williams yn cael ei ddewis fel ymgeisydd seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Geredigion

Mae'r cyn AS Mark Williams wedi ei ddewis fel ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Geredigion ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
Roedd Mr Williams yn AS dros Geredigion rhwng 2005 a 2017 ac yn gyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Collodd ei sedd yng Ngheredigion i'r Aelod Seneddol pressennol Ben Lake yn 2017, o 104 pleidlais yn unig. Yna daeth yn 3ydd yn 2019 y tu ôl i Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr.
Mae bellach wedi ei ail-ethol fel ymgeisydd yn dilyn pleidlais gan aelodau lleol y blaid, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gynrychioli'r blaid unwaith eto.
"Dwi mor hapus i fod yn ymgeisydd yn fy etholaeth leol, lle dwi'n byw, lle mae fy mhlant wedi tyfu fyny a lleoliad dwi wir yn meddwl sydd gyda llawer o botensial.
"Mae Ceredigion yn lle hyfryd i fyw, ond yn aml iawn mae'n cael ei hesgeuluso gan Lywodraeth y DU yn San Steffan a Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.
"Mae ymrwymiad y Democratiaid Rhyddfrydol i ryngwladoliaeth, diogelu ein hamgylchedd naturiol, sefyll dros ofalwyr a diwygio ein democratiaeth yn bethau dwi'n edrych ymlaen at drafod gyda chymdogion."
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds bod gan Mark y profiad i ennill yng Ngheredigion.
"Dwi'n falch i weld bod Mark wedi cael ei ail-ethol. Mae ganddo'r profiad, yr ysfa a'r angerdd i fod yn llais cryf dros Geredigion yn San Steffan ac mae ganddo fy nghefnogaeth lawn."