Newyddion S4C

Rhybudd i deithwyr wrth i weithwyr y rheilffyrdd fynd ar streic dros y penwythnos

12/05/2023
Tren

Mae yna rybudd y gallai teithwyr yng Nghymru wynebu oedi ar rai gwasanaethau trên dros y penwythnos wrth i weithwyr rheilffyrdd gynnal rhagor o streiciau. 

Fe fydd aelodau undeb ASLEF yn streicio ddydd Gwener tra y bydd aelodau undebau'r NURM a'r RMT yn streicio ddydd Sadwrn.

Er nad yw Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r gweithredu diwydiannol, bydd y streiciau yn cael effaith ar eu gwasanaethau ac mae rhybudd i deithwyr wirio amserlen gwasanaethau trên cyn teithio.

Rhybuddiodd Trafnidiaeth Cymru y bydd gwasanaethau rhwng Caerfyrddin a Bryste, Caerloyw a Cheltenham, gogledd Cymru a Manceinion a'r Amwythig a Birmingham yn llawer prysurach na'r arfer ddydd Gwener.

Fe fydd llawer o wasanaethau yn Lloegr yn cael eu heffeithio ddydd Sadwrn hefyd. Bydd gorsafoedd Caerloyw a Wolverhampton dim ond yn gweithredu rhwng 07:00 a 19:00.

Yn ogystal, bydd gwasanaethau rhwng gogledd Cymru a Manceinion yn dod i ben yng ngorsaf Caer yn hytrach na Manceinion.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gwasanaeth rhwng Caer a Liverpool Lime street rhwng 07:00 a 19:00 ar gyfer Eurovision ddydd Sadwrn, ond ni fydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal wedi 19:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.