Newyddion S4C

Elin Jones yn dweud na fydd yn rhoi ei henw ymlaen i fod yn arweinydd Plaid Cymru

11/05/2023
S4C

Mae AS Ceredigion, Elin Jones, wedi dweud na fydd yn rhoi ei henw ymlaen i fod yn arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd hefyd ei bod hi’n gobeithio y bydd modd cytuno ar un ymgeisydd er mwyn osgoi etholiad.

Elin Jones yw aelod mwyaf profiadol Plaid Cymru wedi bron i chwarter canrif yn y Senedd, ac mae ar hyn o bryd yn Llywydd y Senedd.

“Paid panico Mam, fi ddim yn mynd i sefyll!” meddai. “Fydda i ddim yn sefyll i fod yn Arweinydd Plaid Cymru.

“Pwy fydden i eisiau i fod yn Arweinydd? Mewn gwirionedd dwi moyn osgoi etholiad drwy fod y grŵp gyfan yn uno tu ôl un ymgeisydd.

“Mae pethe pwysig angen eu cyflawni dros y misoedd nesaf - ac ar hynny licen i weld pawb yn canolbwyntio.”

Enwebiad

Mae Elin Jones yn gyn weinidog dros Faterion Gwledig yn Llywodraeth Cymru’n Un rhwng 2007 a 2011.

Mae hi wedi cystadlu am yr arweinyddiaeth o’r blaen gan sefyll yn erbyn Leanne Wood yn 2012 gan golli o 41% i 55%.

Daw'r cyfle i olynu Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru wedi iddo gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth o'r modd y mae wedi ymateb i honiadau diweddar o gamymddygiad yn erbyn aelodau blaenllaw.

Cafodd Llŷr Huws Gruffydd ei enwi yn arweinydd dros dro Plaid Cymru ddydd Iau.

Bydd angen i'w enwebiad gael ei gadarnhau gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn.

Bydd arweinydd newydd parhaol yn ei le yn yr haf, meddai Plaid Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.