Newyddion S4C

‘Testun balchder’: Disgyblion o Gymru yng nghystadleuaeth Fformiwla Un Ysgolion y Byd

18/11/2024
F1 mewn ysgolion, Bro Edern

Mae ysgol o Gaerdydd yn gobeithio rhoi Cymru ar y map ar ôl iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth FI Ysgolion y Byd.

Fe ddaeth Ysgol Bro Edern i’r brig yng nghystadleuaeth y DU am greu y car oedd yn gallu teithio gyflymaf ar y trac sef 1.267 eiliad.

Y nod yw creu'r car cyflymaf posibl. Mae'r timau hefyd yn cael eu hasesu ar sail y gwaith dylunio a'r beirianneg, eu cyflwyniad llafar a'u harddangosfa o'r prosiect. 

Am ei bod wedi ennill y gystadleuaeth ym Mhrydain maen nhw nawr yn cystadlu yn y rowndiau terfynol yn Rotherham ym mis Mawrth.

Fe fyddan nhw yn wynebu timau o bob cwr o’r byd. 

Fe ddechreuodd tîm Hypernova, sef chwe disgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, eu taith F1 bedair blynedd yn ôl.

'Hyrwyddo'r Gymraeg'

Dywedodd Carys, rheolwr prosiect Hypernova: "Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon wir wedi bod yn werth chweil. Mae wedi bod yn hwyl gweithio fel tîm, ac mae wedi fy ngalluogi i i ddysgu sut i addasu i anghenion gwahanol aelodau’r tîm. 

Dw i’n bwriadu astudio meddygaeth, ac oni bai am y profiad hwn, mae’n debygol na fyddwn i wedi ystyried hynny fel gyrfa."

Ychwanegodd: "Mi fydd yna dimau yn cystadlu o bob rhan o’r byd, a bydd yn braf cysylltu â nhw ynghylch y pynciau rydyn ni’n teimlo’n angerddol yn eu cylch. 

Ni yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i gystadlu, ac mae’n destun balchder i ni ein bod ni’n gallu hyrwyddo’r iaith a dangos bod Cymru yn gallu gwneud yn dda."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.