‘Ddim yn deg rhoi y bai i gyd ar Adam Price’ medd AS Plaid Cymru

Mae un o ASau Plaid Cymru wedi dweud “nad yw’n deg” rhoi y bai i gyd ar Adam Price oherwydd bod methiant y blaid yn un “ar y cyd”.
Dywedodd Cefin Campbell sy’n Aelod o Senedd Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru bod nifer o aelodau etholedig wedi clywed am yr hyn a oedd yn digwydd o fewn y blaid ond heb weithredu.
Daw wedi i Adam Price gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru yn dilyn beirniadaeth o'r modd y mae wedi ymateb i honiadau diweddar o gamymddygiad yn erbyn aelodau blaenllaw.
Dywedodd Cefin Campbell: “Rydan ni’n cydnabod ein bod ni wedi gwneud ambell i beth yn anghywir – ac mae hyn yn mynd yn ôl amser pell yn hanes y blaid a cyn arweinyddiaeth Adam Price.
“Mae’n rhaid i ni ddweud sori wrth y rheini sydd wedi eu tramgwyddo a’r dioddefwyr o ymddygiad amhriodol, ac mae’n rhaid i ni wneud yn iawn am hynny.”
‘Ysgwyddo’r baich’
Dywedodd nad oedd ef ei hun wedi gweld dim “ond rydw i wedi clywed am ddigwyddiadau ac mae’n rhaid i fi gymryd cyfrifoldeb am hynny”.
“Dyma pam mae nifer ohonon ni’n teimlo ei fod ychydig yn annheg i roi’r bai ar Adam Price.
“Ni ddylai orfod ysgwyddo’r baich ar gyfer rywbeth oedd ar y cyd.
“Ond mae wedi gwneud y peth anrhydeddus ar ôl meddwl yn galed am yr hyn y dylai ei wneud.”
Cafodd Llŷr Huws Gruffydd ei enwi yn arweinydd dros dro Plaid Cymru ddydd Iau.
Bydd angen i'w enwebiad gael ei gadarnhau gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn.
Mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru fod Llŷr Huws Gruffydd wedi ei "enwebu yn unfrydol gan Grŵp Senedd Plaid Cymru fel Arweinydd Gweithredol y blaid ar yr amod ei fod yn cael ei enwebu gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn".
Bydd arweinydd newydd parhaol yn ei le yn yr haf, meddai Plaid Cymru.