Newyddion S4C

Arestiad Imran Khan yn anghyfreithlon

11/05/2023
S4C

Mae Goruchaf Lys Pacistan wedi dyfarnu bod arestiad y cyn-brif weinidog Imran Khan ar gyhuddiadau o lygredd yr wythnos hon yn anghyfreithlon.

Gorchmynnodd y llys i Mr Khan gael ei ryddhau ar unwaith. Roedd ei gyfreithwyr wedi dadlau bod ei gadw o safle’r llys yn Islamabad ddydd Mawrth yn anghyfreithlon.

Mae o leiaf 10 o bobol wedi’u lladd a 2,000 wedi’u harestio mewn protestiadau treisgar sydd wedi ysgubo’r wlad ers iddo gael ei arestio ddydd Mawrth, wrth i densiynau gynyddu rhwng ei gefnogwyr a'r fyddin.

Cafodd Mr Khan, sydd bellach yn arweinydd yr wrthblaid ar ôl cael ei ddisodli fel prif weinidog mewn pleidlais hyder ym mis Ebrill y llynedd, ei ddwyn i'r llys ar orchymyn prif farnwr Pacistan.

“Roedd eich arestiad yn annilys felly mae angen olrhain y broses gyfan,” meddai’r Prif Ustus Umar Ata Bandial wrth Mr Khan.

Roedd lluniau o’i arestiad yn dangos lluoedd parafilwrol yn cipio Mr Khan, a gafodd ei anafu mewn ymosodiad â gwn y llynedd, ac yn ei lusgo o du mewn i safle’r llys, cyn cael ei dywys i ffwrdd mewn cerbyd arfog.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.