Phil Parkinson yn ennill gwobr rheolwr y tymor y Gynghrair Genedlaethol

Mae rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson, wedi cael ei enwi fel rheolwr y tymor yn y Gynghrair Genedlaethol.
Cafodd tîm a rheolwr y tymor eu cyhoeddi gan y gynghrair prynhawn ddydd Mercher, gyda Parkinson wedi ei ddewis fel rheolwr gorau'r tymor.
Fe arweiniodd Wrecsam at bencampwriaeth y Gynghrair Genedlaethol, gan sicrhau dyrchafiad i Adran Dau am y tro cyntaf ers 15 mlynedd.
Cafodd tri o chwaraewyr y Dreigiau eu dewis yn nhîm y tymor, tra bod pum chwaraewr o Notts County, dau o Chesterfield ac un o Boreham Wood ymhlith yr un ar ddeg gafodd eu dewis.
Ben Tozer, Elliot Lee a Paul Mullin yw'r tri chwaraewr o Wrecsam gafodd eu cynnwys.
Ymosodwr Notts County, Macaulay Langstaff, enillodd gwobr chwaraewr y tymor, ar ôl sgorio 42 o goliau.