Newyddion S4C

Gwleidyddion yn gofyn am atebion am ddefnydd heddwas o 'rym eithriadol' ym Mhorthmadog

11/05/2023

Gwleidyddion yn gofyn am atebion am ddefnydd heddwas o 'rym eithriadol' ym Mhorthmadog

Mae gwleidyddion Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am esboniad yn dilyn arestio dyn ym Mhorthmadog ddydd Mercher.

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod yn "ymchwilio'n llawn" i'r digwyddiad wedi i fideo ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol o ddyn o Borthmadog yn cael ei arestio gan ddau swyddog yn y dref.

Yn y fideo mae'r dyn 34 oed yn cael ei orfodi i'r llawr mewn gardd, cyn i un swyddog afael yn ei wddf a'i ddyrnu yn ei wyneb nifer o weithiau.

Yn dilyn ymateb y cyhoedd i'r fideo ar gyfryngau cymdeithasol, mae'r aelod lleol o Senedd Cymru Mabon ap Gwynfor, yr aelod Seneddol lleol Liz Saville-Roberts, a dirpwyr arweinydd Cyngor Gwynedd Nia Jeffreys, sydd hefyd yn gynghorydd dros ward yn nhref Porthmadog, wedi galw am atebion.

Mewn llythyr ar y cyd i'r Prif Gwnstabl, dywedodd y tri: "Mae nifer o etholwyr wedi tynnu’n sylw at fideo gafodd ei bostio ar Facebook ddoe yn dangos dau heddwas yn atal dyn.

"Digwyddodd hyn yn yr awyr agored mewn ystad o dai yn ardal Porthmadog.

"Er nad ydym yn gwybod manylion y digwyddiad neu a ydi’r dyn wedi cael ei arestio neu’i gyhuddo, rydym yn cysylltu er mwyn cyfathrebu pryderon etholwyr bod y fideo’n edrych fel bod un o’r ddau heddwas yn defnyddio grym eithriadol."

Ychwanegodd eu llythyr: "Fedrwch chi esbonio a oedd y dulliau a ddefnyddiwyd yn rhai a gymeradwyir gan Heddlu Gogledd Cymru ai peidio, a pha gamau byddwch yn eu cymryd i adennill hyder y cyhoedd yn swyddogion yr heddlu’n lleol gan fod nifer o bobl yn datgan ar gyfryngau cymdeithasol eu bod wedi brawychu wrth weld y fideo?" 

'Ymchwiliad'

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd mewn neges ar Twitter fod y llu wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ac na fyddai modd iddi wneud sylw pellach.

Mewn datganiad brynhawn ddydd Iau, dywedodd y llu: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud ag arestio dyn yn ardal Porthmadog ar 10 Mai 2023, a'r dystiolaeth ar fideo sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae'r mater wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Ymddygiad Heddlu Annibynnol (IOPC) gan Heddlu Gogledd Cymru ac mi fydd yr achos yn cael ei ymchwilio ganddyn nhw fel ymchwiliad annibynnol.

"Rydym yn ddiolchgar i'r cyhoedd am dynnu sylw at y digwyddiad ond yn gofyn am y tro i dystion yn unig gysylltu â nhw yn hytrach na phobl a welodd y digwyddiad ar fideo neu ffyrdd eraill.

"Gan fod yn ymchwiliad yn parhau ni fydd yr heddlu yn gwneud unrhyw sylwadau pellach am y mater ar hyn o bryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.