Y DU i ddarparu taflegrau i Wcráin

Mae'r Gweinidog Amddiffyn Ben Wallace wedi cadarnhau y bydd y DU yn anfon taflegrau pellter hir i Wcráin.
Dywedodd y gweinidog y byddai taflegrau Storm Shadow yn cael eu darparu i fyddin Wcráin wrth i'r rhyfel gyda Rwsia barhau yno.
Mae Wcráin wedi bod yn galw am daflegrau gan wledydd eraill, ond mae'r UDA a gwledydd eraill wedi oedi rhag ofn iddynt gael eu defnyddio ar dir Rwsia.
Dywedodd CNN bod y DU wedi cael cadarnhad na fydd y taflegrau yn cael eu defnyddio tu allan i Wcráin.
Cafodd taflegrau Storm Shadow eu datblygu gan British Aerospace a chwmni Ffrengig, ac maen nhw'n cario pen ffrwydrol sydd yn gallu cyrraedd pellter o 560km, meddai'r RAF.
Wrth ymateb i'r cytundeb rhwng y DU a Wcráin dywedodd Rwsia y byddai angen "ymateb digonol gan ein byddin."
Llun: Wikimedia Commons