Newyddion S4C

Lladrata o ffermydd yn ‘cael effaith ofnadwy’ ar gymunedau cefn gwlad

Lladrata o ffermydd yn ‘cael effaith ofnadwy’ ar gymunedau cefn gwlad

Mae achosion o ddwyn o ffermydd yn cynyddu ac yn cael ‘effaith ofnadwy’ ar gymunedau gwledig ar draws Cymru, yn ôl un o benaethiaid undeb amaethyddol.

Fe gafodd buches o 26 o wartheg Fresian ei dwyn o dir yn ardal Gelli Aur, ger Llandeilo, fis diwethaf.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn credu fod y gwartheg wedi eu tywys o’r fferm mewn lori, ond mae’r achos bellach wedi ei gau oherwydd diffyg tystion.

Daw hyn ar ôl achos ym mis Rhagfyr ble gafodd 14 o wartheg, oedd werth tua £20,000, eu dwyn o fferm ger Llannerch-y-medd, ar Ynys Môn.

Ar ôl ymweld â dwy fferm yn Stoke on Trent fe wnaeth yr heddlu ddarganfod y gwartheg dros 130 milltir i ffwrdd, ac arestio dyn mewn cysylltiad â dwyn gwartheg, yn ogystal â dwyn tractor John Deere o fferm arall yn Sir Stafford.

Cafodd y dyn ei ryddhau yn ddiweddarach dan ymchwiliad tra bod Heddlu Gogledd Cymru yn gwneud ymholiadau pellach.

“Eich dychryn chi”

Yn ôl ffigyrau gan undeb NFU Mutual, roedd troseddau cefn gwlad yng Nghymru wedi achosi cost o £1.3 miliwn yn 2022.

Ar draws y Deyrnas Unedig, roedd £40.5 miliwn wedi ei golli yn dilyn achosion o ladrata, gyda gwerth £9.6 miliwn o gerbydau yn cael eu dwyn, yn ogystal ag offer GPS, trelars, a da byw.

Mae Eifion Huws, Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru a ffermwr llaeth profiadol, yn dweud fod lladron bellach yn targedu ffermydd penodol ac yn trefnu gwerthu’r eiddo i brynwyr cyn cwblhau’r drosedd.

 

Image
Eifion Huws, is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru
Eifion Huws, Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae o’n digwydd mwy aml, does dim dwywaith am hynny, achos ‘da ni wedi mynd yn gymdeithas fel ‘na,“ meddai.

“Mae 'na lot o ddwyn, mae o ym mhob man. Dw i’n meddwl fod 'na lot fawr o achosion wedi cael eu planio. Mae’r gwartheg yn broblem ac mae’r peiriannau yn broblem.

“Mae o’n cael effaith ofnadwy ar y gymuned, pan ‘da chi’n colli’r nifer yna o wartheg. Fyswn i ddim yn licio rhoi’n hun yn eu ‘sgidiau nhw. Mae o’n enfawr.

“Collwyd dros 20 o wartheg yn Sir Gaerfyrddin - bobol bach. Be sydd yn eich dychryn chi fwy, maen nhw wedi mynd o ‘na ac wedi cael eu cario mewn lori.

“Fedrith y lori ddim troi i fyny ar yr off chance bod nhw’n mynd i gael rhywbeth, oeddan nhw’n gwybod yn iawn fod nhw yna.

“Be sy’ fwyaf ofnus am hynny ydy bod y gwartheg wedi’i dwyn i order. Odd na rywun yn gwybod fod nhw yna a gwybod fod 'na gartref iddyn nhw.

“Does ‘na fyw iddyn nhw fynd a’r gwartheg i’r farchnad, neu gael eu lladd achos does 'na ddim pasbort – oeddan nhw wedi cael eu dwyn i ordor, ac mae hynny yn dychryn rhywun yn ofnadwy.”

“Angen cloi, cloi, cloi”

Fe gafodd cynllun Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ei lansio gan Lywodraeth Cymru fis Ebrill, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem o ladrata o ffermydd.

Mae’r strategaeth yn annog datblygu rhwydweithiau cefn gwlad, cyd-weithio agosach gyda’r heddlu, defnyddio technoleg a gwneud defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth.

Ond mae cyfrifoldeb ar ffermwyr hefyd i sicrhau eu heiddo, meddai Mr Huws.

“Mae’r heddlu yn wneud cyn gystad a fedran nhw, ond di’r heddlu dim ond yn cael eu galw y rhan fwya’r amser ar ôl y digwyddiad.

“Dw i’n siŵr fod nhw’n mynd o gwmpas ffermydd a helpu nhw yn dweud wrthyn nhw gael camera yn y fan yma, fan ‘cw.

“Mae lot yn dod lawr i’r ffermwyr ei hunain. Mae gadael tractor â’r goriad ynddi yn fatal. Dwi ddim yn siŵr os di’r cwmnïoedd insurance yn talu allan os oes 'na oriad yn y tractor.

“Mae angen tracars ar bopeth, popeth wedi ei farcio, cameras, pethau bychain fel ‘na. Mae 'na lot o bethau fel ‘na fedrith ffarmwr wneud, i helpu ei hunain fatha diwydiant.

“Mae’n rhaid i ni gael fwy o reolaeth ar eiddo ein hunain. Mae angen cloi, cloi, cloi.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.