Banc Lloegr yn cynyddu cyfraddau llog unwaith yn rhagor

Mae Banc Lloegr wedi cynyddu cyfraddau llog am y deuddegfed gwaith mewn llai na 18 mis.
Pleidleisiodd saith aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol y Banc i gynyddu’r gyfradd llog sylfaenol o 4.25% i 4.5%.
Dywedodd Canghellor cysgodol y Blaid Lafur, Rachel Reeves, y byddai teuluoedd yn pryderu wrth glywed y newyddion.
"Byddai pobl yn llawn pryder wrth glywed y newyddion yma," meddai.
"Mae angen i'r prif weinidog gymryd cyfrifoldeb. Mae angen treth ar hap ar gewri'r diwydiant nwy ac olew er mwyn lleddfu effaith costau byw."
Dywedodd Banc Lloegr eu bod yn disgwyl i chwyddiant y DU ostwng yn arafach wrth i brisiau bwyd aros yn uchel.
Mae prisiau bwyd wedi aros yn uchel am gyfnod hirach na’r disgwyl, yn rhannol oherwydd y rhyfel rhwng Rwsia a Wcráin.