Newyddion S4C

Llŷr Huws Gruffydd yn arweinydd dros dro Plaid Cymru wrth i Adam Price ildio'r awenau

11/05/2023
llyr huws gruffydd

Mae Llŷr Huws Gruffydd wedi ei enwi yn arweinydd dros dro Plaid Cymru.

Daw wedi i Adam Price gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru ar ôl pedair blynedd yn y rôl.

Cytunodd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ddydd Mercher i ofyn i Grŵp Senedd Plaid Cymru am enwebiadau ar gyfer arweinydd dros dro yn eu cyfarfod ddydd Iau.

Fe gytunwyd hefyd na fyddai yr arweinydd dros dro yn gallu bod yn arweinydd parhaol ar y blaid.

Bydd angen i enwebiad Llŷr Huws Gruffydd gael ei gadarnhau gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru fod Llŷr Huws Gruffydd wedi ei "enwebu yn unfrydol gan Grŵp Senedd Plaid Cymru fel Arweinydd Gweithredol y blaid ar yr amod ei fod yn cael ei enwebu gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn".

Bydd arweinydd newydd parhaol yn ei le yn yr haf, meddai Plaid Cymru.

'Egni'

Wrth gamu o'r neilltu ddydd Mercher dywedodd Adam Price ei fod yn bwysig iddo gydnabod "cyd-fethiant" y blaid yn dilyn beirniadaeth o'r modd y mae wedi ymateb i honiadau diweddar o gamymddygiad yn erbyn aelodau blaenllaw.

Mewn datganiad dywedodd Adam Price fod ei “ymrwymiad i’n gweledigaeth o genedl sydd wedi’i thrawsnewid mor gryf ag erioed”.

Ychwanegodd nad oedd ei “egni dros newid wedi ei bylu”.

“Byddaf yn parhau i wasanaethu fy ngwlad, fy etholwyr a’n plaid gyda phenderfyniad a brwdfrydedd,” meddai.

Dywedodd Marc Jones, Cadeirydd Plaid Cymru ei fod eisiau "diolch i Adam am ei egni a’i weledigaeth dros y pedair blynedd a hanner diwethaf".

Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn gallu adeiladu ar "ymrwymiad personol Adam i wneud Cymru yn genedl decach".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.