Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aeron

‘Cyffrous iawn’: Cymeradwyo ysgol Gymraeg newydd yng Ngheredigion

NS4C 11/05/2023

Mae cynlluniau "cyffrous iawn" ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Ngheredigion wedi cael eu cymeradwyo gan gynghorwyr.

Bydd Ysgol Dyffryn Aeron yn cael ei hadeiladu ar safle ger Felin-fach rhwng Aberaeron a Llambed.

Pleidleisiodd Pwyllgor Rheoli Datblygu'r sir ar y mater ddydd Mercher.

Fe fydd lle ar gyfer 240 o ddisgyblion a 56 o staff dysgu yn yr ysgol £11m a fydd yn cael ei hadeiladu gan Wynne Construction.

Y bwriad yw bod ysgolion Ciliau Parc, Felin-fach a Dihewyd yn cau er mwyn ffurfio’r ysgol newydd.

Yn y cyfarfod dywedodd cynghorydd Llanfihangel Ystrad, Ceris Jones, ei fod yn “ddatblygiad cyffrous iawn i’r ardal”.

“Rwy’n gwybod nad yw pawb yn hapus fod tair ysgol yn cau,” meddai.

'Di-garbon'

Dywedodd cynghorydd Ciliau Aeron Marc Davies y dylid cefnogi’r cais.

“Mae pawb yn gyffrous iawn am y datblygiad hwn - mae addysg yng Ngheredigion ymhlith y gorau yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd yr asiant TACP Architects Ltd, mewn datganiad i’r cyngor y bydd y datblygiad “yn dod â safon yr ystafelloedd addysgu sydd ar gael yn Nyffryn Aeron i fyny i safonau ysgolion yr 21ain Ganrif”.

“Bydd hefyd yn darparu ysgol ddi-garbon net, gan gyfrannu at ymdrechion Cyngor Ceredigion i ddarparu awdurdod di-garbon erbyn 2030,” medden nhw.

“Bydd y datblygiad hwn hefyd yn ceisio cryfhau cysylltiadau â’r gymuned leol drwy ymgorffori cyfleusterau sydd o fudd i’r ysgol a’r gymuned.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.