Newyddion S4C

Heddlu'n 'ymchwilio'n llawn' wedi i ddyn o Borthmadog gael ei daro sawl gwaith wrth gael ei arestio

11/05/2023
arest

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud eu bod yn "ymchwilio'n llawn" wedi i fideo ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol o ddyn o Borthmadog yn cael ei arestio gan ddau swyddog yn y dref ddydd Mercher.

Yn y fideo mae'r dyn 34 oed yn cael ei orfodi i'r llawr mewn gardd, cyn i un swyddog afael yn ei wddf a'i ddyrnu yn ei wyneb nifer o weithiau.

Mewn datganiad, dywedodd y llu: "Rydym yn ymwybodol o fideo sy’n cael ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol sy’n dangos swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn arestio dyn 34 oed o ardal Porthmadog yn gynharach heddiw (dydd Mercher, 10 Mai).

"Yn dilyn hyn, cludwyd y sawl a ddrwgdybir i'r ysbyty i staff meddygol gael ei asesu cyn iddo gael ei drosglwyddo i ddalfa'r heddlu.

"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio'n llawn i'r mater hwn ar hyn o bryd a bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.