Newyddion S4C

Nyrsys yng Nghymru yn gwrthod cynnig tâl newydd

10/05/2023
Streic nyrsys

Bydd nyrsys yng Nghymru yn parhau i streicio wedi i undeb y RCN gwrthod cynnig tâl newydd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yng Nghymru ddydd Mercher fod ei aelodau wedi gwrthod cynnig "gorau a therfynol" y llywodraeth.

O ganlyniad, fe fydd nyrsys yn streicio ar Mehefin 6 a 7, ac yna Gorffennaf 12 a 13.

Roedd cynnig Llywodraeth Cymru yn cynnwys taliad untro o 3%, wedi'i ôl-ddyddio i'r llynedd, a 5% yn ychwanegol o ddechrau'r mis hwn.

Roedd rhai undebau wedi annog eu haelodau i dderbyn y cynnig, ond doedd yr RCN ddim wedi cynghori aelodau sut i bleidleisio.

Fe wnaeth 47% o'r rheiny a bleidleisiodd dderbyn y cynnig diweddaraf, tra bod 53% wedi gwrthod.

Ailagor trafodaethau

Yn dilyn y bleidlais ddiweddaraf, mae'r RCN wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan er mwyn ceisio ailagor y trafodaethau.

Dywedodd cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley, fod y "penderfyniad diweddaraf yn ein gwneud yn fwy penderfynol fyth i sicrhau cynnig tâl derbyniol ar gyfer dyfodol y proffesiwn".

"Mae nyrsys wastad yn gweithredu er budd y cleifion. Mae'n rhaid i'r llywodraeth weithredu o'u plaid nhw nawr.

"Rydw i wedi gofyn am ailagor trafodaethau ar unwaith gyda'r Gweinidog Iechyd, fel nad oes angen i'n haelodau ddychwelyd i'r llinell biced.

"Streicio ydy'r opsiwn olaf pob tro, ond rydyn ni wedi cael ein gwthio yma unwaith eto.

"Os na fydd mwy o drafodaethau, ni fyddwn yn oedi cyn streicio eto, gan weithredu'n gryfach na'r hyn sydd wedi bod eisoes."

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er ein bod yn cydnabod cryfder y teimladau ymhlith yr aelodau, rydym yn siomedig gyda chanlyniad y bleidlais.

"Rydym hefyd yn siomedig gyda'r cyhoeddiad am weithredu diwydiannol pellach cyn clywed canlyniad pleidleisiau undebau llafur eraill a chytuno ar sefyllfa derfynol ar y cyd gyda Pwyllgor Busnes y Fforwm Partneriaeth Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.