Newyddion S4C

Ysmygu canabis

Nifer y disgyblion sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol am ddefnyddio canabis yn cynyddu yn Sir y Fflint

NS4C 11/05/2023

Mae nifer y disgyblion sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol wedi cynyddu yn Sir y Fflint - a hynny’n rhannol o ganlyniad i broblemau i’w wneud a chanabis. 

Yn ôl adroddiad i'r cyngor sir, roedd y defnydd o ganabis yn un rheswm “amlwg” am y cynnydd.

Dywedodd prif swyddog addysg y sir bod cynnydd wedi bod yn lefel absenoldeb oherwydd cyfuniad o salwch, gwyliau, a gwaharddiadau. Ond mae'n pwysleisio bod tuedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru. 

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod mwy o ddisgyblion sydd mewn perygl o gael eu niweidio neu eu hecsbloetio ymysg y rhai sy’n cael eu gwahardd. 

Y prif resymau dros wahardd disgyblion oedd ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl arall, bygwth athrawon ac ymddygiad oedd yn achosi aflonyddwch. 

Nododd yr adroddiad: "Fodd bynnag, un cynnydd amlwg oedd mewn materion yn ymwneud a chamddefnyddio sylweddau, yn arbennig y defnydd o ganabis."

Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau alochol a chyffuriau i gynnig cefnogaeth.

Bydd pwyllgor ieuenctid a diwylliant Cyngor Sir y Fflint yn cwrdd dydd Iau i drafod effeithiau’r adroddiad sy’n canolbwyntio ar y flwyddyn academaidd 2021-2022.

Llun: Creative Commons.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.