
Mam o Sir Gaerfyrddin yn dweud fod y system addysg wedi ‘ffaelu’ ei mab awtistig
Mam o Sir Gaerfyrddin yn dweud fod y system addysg wedi ‘ffaelu’ ei mab awtistig

Mae mam o Sir Gaerfyrddin yn dweud bod y system addysg gynradd wedi ‘ffaelu’ ei mab awtistig.
Mae mab y Parchedig Angharad Griffith, Llewelyn wedi methu mynd i’r ysgol yn gyson ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae ei fam Angharad yn teimlo mai methiant o fewn y system addysg sydd i gyfrif yn rhannol am hynny.
“Neth e ffaelu, nath y system ffaelu Llew ar ddiwedd ei gyfnod yn yr Ysgol Gynradd a felly mae hwnna wedi cael knock on effect ar bopeth arall.” meddai.
“Dwi’m yn meddwl bod y system gynradd fel mae ar hyn o bryd yn neud digon ar gyfer plant PDA, a mae’n rhaid i chi gael y system gynradd yn iawn neu mae nhw’n ffili ’transitiono’ i’r uwchradd. Mae’n rhaid cael e’n iawn.”
Mae hi'n yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ynglyn â’r cyflwr PDA (Pathological Demand Avoidance).
Mae PDA yn cael ei ystyried yn rhan o’r sbectrwm Awstistiaeth, ac mae’r cyflwr meddai wedi caethiwo ei mab 11 mlwydd oed.
“Beth y’ ni’n byw gyda bob dydd yw y ffaith bod y plant ‘ma sydd â PDA yn gweld popeth fel demand, neu orchymyn, hyd yn oed dweud y gair ‘Helo.’”
Yn ôl y Gymdeithas PDA, mae’n ddyddiau cynnar iawn wrth geisio ymchwilio i’r cyflwr a’i ddeall yn llawn. Gydag amcangyfrif y gallai un ymhob pump o bobl sydd ag awtistiaeth fod ar y proffeil PDA.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, Y Cynghorydd Glynog Davies:
“Mae yna weithdrefnau cadarn yn eu lle o ran cynhwysiant ac yr ydym, fel Cyngor, yn gwneud ein gorau i gwrdd ag anghenion pob dysgwr. Rydw i a’r Cyfarwyddwr Addysg yn trefnu i gwrdd gyda’r Parchedig Angharad Griffith a nifer fach o rieni eraill i wrando ar yr hyn sy’n eu poeni.”
Pryder Angharad yw nad yw’r gweithdrefnau hynny ar bob achlysur yn cael eu gwireddu;
“Falle bod y Sir wedi dodi pethau mewn lle, ydyn, ond y trueni yw, mae nhw’n dal i fethu’r plentyn PDA achos dy’ nhw ddim wedi cymryd yr hyfforddinat on board fel petai a mae pethau’n cael ei ddweud sydd yn amlygu’r ffiath bo nhw jyst ddim yn deall plant PDA.”
Mae yna amrywiaeth o nodweddion penodol yn cael eu rhannu gan bobl PDA yn ôl y gymdeithas sy’n eu cynrychioli yn y Deyrnas Unedig.
Mae nhw:
- yn teimlo’r angen i reoli sefyllfaeoedd, a hynny yn aml yn deillio o or-bryder
- yn cael eu gyrru i osgoi ddisgwyliadau neu orchymynion dyddiol
- yn rhannu nodweddion awstistig eraill fel ADHD a Dyslexia
- yn dueddol o beidio ymateb i’r ffyrdd confensiynol o ddysgu, cefnogi a bod yn rhiant
Y gofid yn ôl y gymdeithas PDA yw bod y diffyg ymwybyddiaeth yn golygu nad yw plant ar bob achlysur yn derbyn y gefnogaeth gywir.
Dywedodd llefarydd: “Mae’r Gymdeithas PDA yn cefnogi teuluoedd ar draws Cymru sy’n profi’r heriau yma. Mae’n credu bod angen mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i anghenion plant PDA o fewn y system addysg er mwyn mynd i’r afael â hynny.”
Er mwyn ceisio esbonio’r ffordd y mae’i ymenydd yn gweithio, a chan ddangos pa mor alluog y mae’i feddwl yn greadigol ac yn weledol, mae Llew yn hoff o greu gweithiau celf. Mae un yn benodol o dan y teitl ‘Môr a Mynydd’ yn dangos llosgfynydd a Tsunami sydd meddai yn disgrifio’i feddwl yn berffaith.
'Lambourghini heb frêcs'
Wedi ei brintio ar un o’r gweithiau yma sy’n aml yn derbyn medalau mewn cystadlaethau celf yr Urdd, y mae’r brawddegau canlynol sy’n crisialu’r heriau sy’n wynebu’r bachgen ifanc.
“Mae PDA yn rheoli fy meddwl, nid yw’n gadael i mi neud y pethau dwi am wneud sef mynd i’r ysgol, gwisgo, mynd tu fas, cymysgu gyda phobl eraill.
“Petai gorbryder yn berson, fydden i’n ei ’slapio’ fe yn ei wyneb yn ddiawl o galed, dwi’n ei chasau e a chas berffaith.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n ymgymryd â rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth, y neilltuwyd £12 miliwn iddi, ac rydym wedi sefydlu grŵp cynghori clinigol niwrowahaniaeth, lle gall aelodau roi cyngor arbenigol ar adnabod PDA (osgoi galw patholegol) yng Nghymru.”
Er bod gan Llew berthynas dda gyda’r sefydliad uwchradd sydd nawr yn cyd-weithio â’r teulu wrth ddarparu cefnogaeth ac addysg, mae Angharad yn teimlo bod angen gwella’r gofal cynradd ar gyfer dysgwyr y dyfodol.
“Mae’n sefyllfa drist, achos ni moyn y gorau, a dwi’n gobeithio bod y system addysg moyn y gorau i’n plant ni, ond dyw e jyst ddim ‘di digwydd yn yr achos yma. Mae e di ffaelu a mae e di gadael ei hôl.” meddai Angharad Griffith.
“A mae’r plentyn ‘ma nawr yn gaeth i’w feddwl ac yn gaeth i’w gynefin. A chynefin bach bach yw hwnnw sef y cartref.”