Pennaeth ysgol yn son am bwysau 'dirdynnol' bob eiliad o'r dydd a nos

Mae pennaeth ysgol yn ardal Bro Morgannwg yn dweud ei fod yn poeni am ddiogelwch mewn ysgolion oherwydd toriadau ariannol a phwysau cynyddol ar staff.
Bu Rhydian, nid ei enw iawn, yn athro ers 20 mlynedd.
Dywedodd wrth ITV Cymru ei fod yn "syfrdanol" faint o benaethiaid eraill sy'n cael problemau gyda'u hiechyd meddwl, ac os bydd toriadau i'r gyllideb yn parhau, "ni fydd yn ddiogel i agor ein hysgolion".
Yn ôl Rhydian, mae dychwelyd o'r pandemig, cwricwlwm newydd, archwiliadau, a thoriadau i'r gyllideb oedd yn gorfodi athrawon i dorri niferoedd staff , wedi gwaethygu swydd oedd eisoes yn llawn straen yn barod.
Dywedodd: "Fel pennaeth, does dim cyfle i ymlacio ar unrhyw adeg mewn gwirionedd.
"Oes, mae gennych chi eich diwrnod gwaith ac mae gennych chi amser adref, ond ry’ch chi bob amser ar alwad.
"Mae'r rôl wedi mynd yn fwyfwy dan bwysau i'r pwynt ei bod yn llythrennol yn cymryd dros bob eiliad o bob diwrnod o'ch bywyd."
Straen yn y gwaith
Mae ITV Cymru yn deall bod o leiaf 150 o benaethiaid wedi gofyn am gymorth proffesiynol oherwydd y pwysau maen nhw'n deimlo ar hyn o bryd.
Daw hyn ar ôl i Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru bleidleisio dros dderbyn cynnig cyflog newydd o 8% gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyfres o streiciau dros gyflogau ac amodau gweithio.
Mae Rhydian yn dweud fod straen y gwaith wedi cael effaith ar ei iechyd meddwl a chorfforol.
"Diffyg anadl, poenau yn y frest, cur pen, deffro ar wahanol adegau o'r nos.
"Bron â meddwl llawn panic o; ‘Ydw i wedi gwneud hyn? Rhaid i mi gofio gwneud hyn, rhaid i mi gofio gwneud hynny.'
"Byth wedyn yn gallu mynd yn ôl i gysgu. Yn amlwg, wedyn, rwyt ti'n deffro ac rwyt ti wedi blino ac mae'r diwrnod cyfan yn dechrau eto.
"Mae'n syfrdanol gweld faint sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl eu hunain, eu cwsg eu hunain, eu lles cyffredinol eu hunain", meddai.
"A sut mae bron wedi dod yn norm ein bod ni'n cael y trafferthion hyn. Mae'n eithaf dirdynnol yr effaith mae'n gael ar rai cydweithwyr, a dyw hynny ddim yn gallu parhau."
Gwneud mwy a mwy
Dywedodd Laura Doel o undeb athrawon NAHT: "Rydym yn cael mwy a mwy o aelodau sy'n dod atom gyda phryderon dwfn am gyllid ysgolion a'r elfen o lesiant.
"Mae gofyn i benaethiaid wneud mwy a mwy gyda llai a llai. Mae gennym ni'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru a deddfwriaeth ADY newydd, sydd, er yn ddarnau gwych o ddeddfwriaeth, maen nhw’n dod gyda'u heriau- a phan mae ysgolion yn wynebu toriadau digynsail i'r gyllideb, mae'n rhoi pwysau aruthrol ar y gweithlu."
Dywedodd Rhydian fod toriadau i'r gyllideb wedi ei adael yn ofni am ddiogelwch mewn ysgolion.
"Mae wedi cyrraedd y pwynt, lle os byddwn yn parhau i dorri'n ôl ni fydd yn ddiogel i'w agor", meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Mae lles y gweithlu addysg yn flaenoriaeth inni ac rydym yn gwrando ar bryderon.
"Rydym yn gweithio i leihau llwyth gwaith ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl y gweithlu.
"Er bod ein cyllideb eleni hyd at £900m yn is mewn termau real na'r disgwyl - fe wnaethon ni sicrhau bod awdurdodau lleol, sy'n ariannu ysgolion, wedi derbyn cynnydd o 7.9% i'w cyllidebau o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
“Rydym yn deall bod effeithiau'r pandemig yn dal i’w teimlo, felly, rydym wedi cynnal cyllid i gefnogi ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau am eleni sef £37.5m."