Dyn o Bowys yn gosod teganau o amgylch tyllau yn y ffordd er mwyn tynnu sylw'r cyngor

Roedd un dyn mor rhwystredig â nifer y tyllau ar y ffyrdd drwy'r pentref lle mae'n byw, fe wnaeth e benderfynu cymryd materion i'w ddwylo ei hun.
Fe wnaeth Dan Munford o Lanrhaeadr-ym-Mochnant brynu llwyth o cerbydau fel teganau a'u gosod o amgylch y tyllau yn y ffordd i dynnu sylw at y broblem.
"Rydw i a’m gwraig Sian wedi byw yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ers 2001. Yn anffodus, nid yw'r brif ffordd trwy ein rhan ni o'r pentref erioed wedi bod mewn cyflwr gwaeth nag y mae heddiw," meddai Mr Munford.
“Do’n ni ddim yn gwybod ble i droi i ddweud y gwir. Felly, fe wnes i ddeffro'n gynnar un bore ac roeddwn i'n meddwl 'beth os byddai gan y pentref ei griw atgyweirio ffyrdd ei hun.
"Roedden ni'n edrych ar Amazon ac, fe ddes i o hyd i'r union gerbydau roeddwn i'n chwilio amdano."
Gyda’i deganau, fe aeth o gwmpas y tyllau a rhoi ei dîm ar waith, gan bostio lluniau ar gyfryngau cymdeithasol.
"Wel, fe aeth ychydig yn feiral yn y pentref a roedd y rhan fwyaf o bobl yn chwerthin, yn ogystal â'u hoffi a llawer o sylwadau,” meddai Mr Munford.
Ar ôl cael sylw yn y cyfryngau, cafodd y tyllau yn y ffordd eu trwsio o'r diwedd.
"Y peth nesaf roedd yna griw atgyweirio yma. Felly, mae'n ddoniol. Hynny yw, mae pobl yn dweud bod y criw ychydig fel tylwyth teg y tyllau. Maen nhw'n dod yno un diwrnod ac yna'r diwrnod wedyn mae'r twll yn cael ei drwsio.
"Fel hud a lledrith."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Cafodd archwiliad o'r ffordd ei gynnal fis Ebrill. Yn dilyn hyn, roedd rhai mannau â ddiffygion cynnal a chadw wedi'u nodi a'u rhaglennu i'w hatgyweirio pan fydd adnoddau yn caniatáu.
"Bydd unrhyw waith atgyweirio ail-wynebu ychwanegol a nodwyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer cyllidebau priodol yn y dyfodol."
Llun: Dan Munford