Newyddion S4C

Daniel Morgan

Heddlu'r Met yn ymddiheuro i deulu ditectif preifat gafodd ei lofruddio

NS4C 10/05/2023

Mae Heddlu’r Met wedi ymddiheuro i deulu ditectif preifat o Gymru gafodd ei lofruddio, ar ôl i bapurau oedd yn ran o’r ymchwiliad i’w farwolaeth cael eu canfod mewn cabinet. 

Cafodd Daniel Morgan o Gwmbran ei ladd gyda bwyell tu allan i dafarn yn ne-ddwyrain Llundain ar 10 Mawrth 1987. Does neb wedi eu carcharu am ei lofruddiaeth, a mae’r heddlu wedi wynebu honiadau o lygredd.

Cafodd 95 o bapurau eu canfod mewn cabinet oedd wedi ei gloi ers sawl flwyddyn yn New Scotland Yard, a rheiny’n cynnwys manylion dylai fod wedi eu rhoi fel tystiolaeth i banel annibynnol fu’n ymchilio i farwolaeth Daniel ym Mehefin 2021. 

Yn ogystal cafodd 71 o dudalennau pellach eu canfod a fyddai wedi eu rhoi I’r Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi. 

Yn adroddiad Panel Annibynnol Daniel Morgan, a sefydlwyd i ymchwilio i’r achos, cafodd y Met eu cyhuddo o  “fath o lygredd sefydliadol” am guddio neu gwadu methiannau o fewn yr ymchwiliad I’r llofruddiaeth. 

Bellach mae Barbara Gray sef Comisiynydd Cynorthwyol wedi ymddiheuro i deulu Mr Morgan ar ran yr heddlu. 

Dywedodd: “Rydym yn cydnabod yn llwyr pa mor annerbyniol a gofidus yw’r sefyllfa hon.

“Rydym yn gweithio i ddeall beth wnaeth digwydd yn ogystal ag unrhyw effaith y cafodd. Rydym yn ymddiheuro i deulu Daniel Morgan ac i’r panel.”

Mewn ymateb, dywedodd teulu Daniel: “Dydyn ni, fel teulu Daniel Morgan, ddim wedi synnu gyda’r newyddion diweddaraf gan y Fet a’r modd mae nhw wedi delio a’r saga druenus hon yn y  36 mlynedd ers llofruddiaeth Daniel ym mis Mawrth 1987.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.