Disgwyl i gyfraddau llog godi am y deuddegfed tro'n olynol

Mae disgwyl i Fanc Lloegr godi cyfraddau llog am y deuddegfed tro yn olynol amser cinio ddydd Iau, gyda'r cynnydd yng nghostau byw yn dal i fod yn uchel.
Yn ôl dadansoddwyr, gallai'r gyfradd godi o 4.25% i 4.5% wedi cyfarfod y Pwyllgor Polisi Ariannol.
Mae cyfraddau llog ar eu lefel ucha ers 14 mlynedd, wrth i gostau byw gynyddu yn sylweddol.
Mae Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog ers Rhagfyr 2021 er mwyn ceisio rheoli chwyddiant sydd fymryn yn uwch na 10% ar hyn o bryd.
Mae lefel chwyddiant yn parhau yn uchel, a hynny'n rhannol am fod prisiau bwyd yn cynyddu ar y raddfa gyflymaf ers 45 mlynedd.
Roedd yn 10.1% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, a oedd fymryn yn llai na'r 10.4 % ym mis Chwefror.
Ddydd Mercher, cyhoeddodd yr awdurdodau ariannol yn yr UDA fod y raddfa chwyddiant yno ar ei lefel isaf ers dwy flynedd.
4.9% oedd y raddfa yn ystod y 12 mis hyd at Ebrill, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Roedd hynny fymryn yn is na'r 5% ym mis Mawrth, ac am y degfed mis yn olynol fe arafodd y cynnydd mewn prisiau nwyddau yno.