Adam Price wedi wynebu ‘amgylchiadau ofnadwy o anffafriol’ fel arweinydd medd Cynog Dafis

Mae Adam Price wedi wynebu “amgylchiadau ofnadwy o anffafriol” fel arweinydd Plaid Cymru meddai Cynog Dafis.
Dywedodd y cyn Aelod Seneddol dros Geredigion a chyn Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru bod Adam Price wedi ei lesteirio gan argyfwng Covid-19 ers cael ei ethol yn 2018.
Daw ei sylwadau wrth i Mr Price wynebu cyfarfod tyngydfennol ddydd Mercher a fydd yn penderfynu ei ffawd fel arweinydd y blaid.
Fe adroddodd gwefan Nation.Cymru ddydd Mawrth fod disgwyl i Adam Price gynnig ymddiswyddo ond doedd dim cadarnhad swyddogol gan Blaid Cymru o hynny erbyn ganol dydd, ddydd Mercher.
Wrth bwyso a mesur cyfnod Adam Price wrth y llyw, dywedodd Cynog Dafis bod pandemig Covid-19 wedi atal Plaid Cymru rhag ymgyrchu’n effeithiol yn Etholiad Cynulliad 2021 a hefyd wedi “dyrchafu Mark Drakeford yn ryw fath o eicon”.
Dywedodd hefyd y dylid nodi cyflawniadau niferus gan Adam Price yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, gan gynnwys y cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.
“Daeth Covid cyn iddo gael ei draed tanddo yn iawn fel arweinydd,” meddai.
‘Pwysig’
Ychwanegodd Cynog Dafis bod Adam Price hefyd wedi comisiynu “adroddiad swmpus” ar annibyniaeth a bod ganddo allu arbennig i “ysbrydoli” eraill.
“Fe gynhyrchodd faniffesto ardderchog sydd wedi gweithredu fel sylfaen ar gyfer rhaglen Llywodraeth Cymru,” meddai.
“Roedd yn gytundeb gwleidyddol hanesyddol. Mae wedi gweithredu cyfres o bolisïau hynod Gymreig a chenedlaetholgar. Hebddo ef ni fyddai wedi digwydd.
“Mae’n ofnadwy o bwysig fod y bartneriaeth yn parhau. Fe fyddai yn enbyd o golled fel arall.”
Ychwanegodd fod gan Adam Price gyfraniad swmpus i’w wneud eto yn y dyfodol.
“Mae ganddo ddisgleirdeb deallusol, angerdd ac integrity,” meddai. “Byddai yn golled enbyd pe na bai modd iddo gyfrannu yn y dyfodol.”