Marwolaeth plentyn ifanc yn Llanybydder wedi 'argyfwng meddygol'

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys fod plentyn ifanc wedi marw yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, ar ôl argyfwng meddygol
Cafodd yr heddlu a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw toc cyn 13:00 ddydd Mawrth i gyfeiriad yn Llanybydder.
Dywedodd yr heddlu eu bod bellach yn cynorthwyo'r Crwner, er mwyn ceisio darganfod yr amgylchiadau'n llawn. Ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'r teulu.