Newyddion S4C

Adam Price yn cyhoeddi y bydd yn camu i lawr yr wythnos nesaf

10/05/2023
Adam Price

Mae Adam Price wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru yr wythnos nesaf ar ôl pedair blynedd yn y rôl.

Wrth wneud hynny dywedodd ei fod yn bwysig iddo gydnabod "cyd-fethiant" y blaid yn dilyn beirniadaeth o'r modd y mae wedi ymateb i honiadau diweddar o gamymddygiad yn erbyn aelodau blaenllaw.

Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ddydd Mercher fe gyhoeddodd Adam Price ei benderfyniad i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid unwaith y bydd trefniadau dros dro wedi’u rhoi ar waith.

Cytunodd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol i ofyn i Grŵp Senedd Plaid Cymru am enwebiadau ar gyfer arweinydd dros dro yn eu cyfarfod ddydd Iau.

Bydd yr enwebiad yn cael ei gadarnhau gan Gyngor Cenedlaethol y Blaid a fydd yn cyfarfod ddydd Sadwrn.

Bydd arweinydd newydd yn ei le yn yr haf, medden nhw.

Mewn datganiad dywedodd Adam Price fod ei “ymrwymiad i’n gweledigaeth o genedl sydd wedi’i thrawsnewid mor gryf ag erioed”.

Ychwanegodd nad oedd ei “egni dros newid wedi ei bylu”.

“Byddaf yn parhau i wasanaethu fy ngwlad, fy etholwyr a’n plaid gyda phenderfyniad a brwdfrydedd,” meddai.

Dywedodd Marc Jones, Cadeirydd Plaid Cymru ei fod eisiau "diolch i Adam am ei egni a’i weledigaeth dros y pedair blynedd a hanner diwethaf".

Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn gallu adeiladu ar "ymrwymiad personol Adam i wneud Cymru yn genedl decach".

Llythyr Adam Price

Yn dilyn ei ymddiswyddiad cyhoeddodd Adam Price lythyr i'r cadeirydd Marc Jones a oedd yn manylu ar ei resymau dros wrthod ymddiswyddo yn flaenorol ac am wneud hynny ddydd Mercher.

“Mae llawer y gallwn ni fel plaid fod yn falch ohono,” meddai.

“Rydyn ni wedi llywio'r agenda ar gyfer newid mewn ffordd nad oes yr un wrthblaid o'n blaenau wedi breuddwydio gwneud.

“Roedd y Cytundeb Cydweithio yn wirioneddol arloesol ac mae wedi dod a manteision fydd yn newid bywydau ein plant, ein teuluoedd a'n cyfeillion ar draws y wlad.

“Gallwn ni fod yn falch o'r gwaith hwnnw, fel y gallwn ni fod yn falch o'r gwaith o ddyrchafu dadl annibyniaeth o sgwrs y bwrdd swper i sgwrs cornel stryd.

“Mae ein prif ysgogiad ni - annibyniaeth i Gymru - wedi torri'r glannau ar wleidyddiaeth y brif ffrwd ac erbyn hyn mae llaweroedd, o bob cwr ac o bob plaid, yn credu fel ninnau nad mater o os yw hyn, ond pryd. Mae ein cynnydd fel plaid yn dyst i waith diflino ein staff diwyd a'n hymgyrchwyr llawr gwlad y ces i'r fraint o'u gwasanaethu ac o weithio ochr yn ochr â nhw yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

“Mae'n gwlad i gyd wedi cymryd camau breision ymlaen. Er hynny, mae'n ffaith hefyd mewn sawl maes nad ydyn ni wedi gwneud digon. Mae hyn yn wir am ein gwlad, ond mae hefyd yn wir am y blaid ei hunan.

“Mae'r Gymru annibynnol gynhwysol, flaengar sy'n parchu'n gilydd rydyn ni bob un yn eiriol drosti, ac y byddaf i'n dal i frwydro bob dydd i'w sicrhau, yn gwrthgyferbynnu'n llwyr a'r ymddygiad annerbyniol a ddatgelwyd gan adroddiad Prosiect Pawb.

“Yn sgil datgelu'r diwylliant hwn, fe benderfynon ni chwe mis yn ôl bod proses o archwilio trylwyr yn hanfodol, ac, os oedd am fod yn broses effeithiol, bod angen iddi fod yn dryloyw ac yn ddi-ildio o onest. Dyna pam y gofynnais i rywun o hygrededd dilychwin ac ymrwymiad cadarn i wneud y gwaith. Gonestrwydd yr adroddiad sy'n rhoi'r arwydd sicraf bod y blaid o ddifri ynghylch newid. Mae arnon ni ddyled i bawb a rannodd eu profiadau, profiadau sydd wedi'u hadlewyrchu yn yr adroddiad pwerus yma, i sicrhau newid sylfaenol a di-droi’n-ôl.

“Ar ôl cael yr adroddiad, fe ddywedais wrthych fy mod yn teimlo dyletswydd foesol i gamu i lawr fel Arweinydd y blaid i gydnabod ein cyd-fethiant.

“Fe gynghoroch chi yn erbyn ymddiswyddo gan eich bod yn teimlo y byddai hynny'n ei gwneud yn anoddach sicrhau cynnydd o ran rhoi'r argymhellion ar waith, safbwynt roedd Arweinydd Grŵp San Steffan a chydweithwyr eraill yn ei rannu - yn ogystal â Nerys ei hunan, oedd yn ofni y byddai fy ymddiswyddiad yn tynnu sylw oddi ar y gwaith hanfodol o gyflawni ei hargymhellion ar fyrder.

“Fe ges fy mherswadio felly gan y ddadl y byddai camu i lawr yn ymwrthod a chyfrifoldeb, ac, fel y gwyddoch, drwy gydol fy arweinyddiaeth rydw i wedi ymdrechu bob amser i wneud yr hyn sydd orau i'r blaid.

“Fodd bynnag, mae'n amlwg erbyn hyn nad yw cefnogaeth unedig fy nghydweithwyr gen i, rhywbeth fyddai'n angenrheidiol er mwyn dilyn y llwybr hwnnw'n llwyddiannus.

“Dyna sail fy mhenderfyniad y byddaf yn cyflwyno fy ymddiswyddiad fel Arweinydd y Blaid yn ffurfiol yr wythnos nesaf, unwaith y bydd trefniadau interim wedi'u cytuno, a thelerau cyflogaeth staff Grŵp y Senedd sydd wedi'u cyflogi yn fy enw, wedi'u gwarantu.

“Mae fy ymrwymiad i'n gweledigaeth o wlad wedi'i thrawsnewid mor gryf ag erioed, a fy egni dros newid heb bylu dim.

“Rwy'n rhoi fy sicrwydd personol ichi y byddaf yn parhau i wasanaethu fy ngwlad, fy etholwyr a'n plaid gyda phenderfyniad a brwdfrydedd.”

Cefndir

Cafodd Adam Price ei ethol yn arweinydd yn 2018 pan oedd yn un o ddau, ynghyd â Rhun ap Iorwerth, a heriodd Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Yn y cyfnod hynny, fe wynebodd Etholiad Seneddol lle enillodd Plaid Cymru sedd yn ychwanegol er i’w canran o’r bleidlais ddisgyn.

Yn dilyn yr etholiad fe gyhoeddodd Plaid Cymru y byddai’n cydweithio â’r Llywodraeth Lafur ar 46 o bolisïau penodol, gyda Mr Price yn rhan greiddiol o’r cytundeb gyda Mark Drakeford, arweinydd y blaid Lafur.

Mae Adam Price wedi cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn y Senedd ers 2016.

Cyn hynny roedd yn AS ar yr etholaeth yn San Steffan rhwng 2001 a 2010.

Mae disgwyl bydd y blaid nawr yn mynd ati i ddewis arweinydd newydd. 

'Ymddygiad gwael'

Cynyddodd y pwysau ar Adam Price wedi i grŵp Seneddol Plaid Cymru gyfarfod nos Fawrth yn sgil adroddiad beirniadol a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf. Daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad bod angen ymateb ar fyrder i'r hyn gafodd ei alw yn "ddiwylliant gwenwynig" o fewn y blaid. 

Wedi i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi, dywedodd Adam Price ei fod yn benderfynol o aros wrth y llyw er mwyn cyflwyno newidiadau.

Roedd yr Aelod Seneddol ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts yn bresennol yn y cyfarfod nos Fawrth.

Cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru a'r cyn aelod o staff Nerys Evans fu'n cynnal yr adolygiad o'r enw 'Prosiect Pawb'. 

Daeth i'r casgliad fod Plaid Cymru wedi "methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol" a bod angen ymdrin â nifer o faterion Adnoddau Dynol "ar fyrder". 

Yn ogystal, mae'n honni fod staff y blaid wedi gweld "gormod o achosion o ymddygiad gwael gan aelodau etholedig yn cael eu goddef", ac nad ydyn nhw'n gweld diben codi pryderon.

Tra roedd y dyfalu'n dwyshau am ddyfodol Arweinydd Plaid Cymru ben bore Mercher, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru nad yw hi'n amlwg pwy allai ei olynu: "Mae pwy bynnag bydd yn olynu Adam Price, os ma’ fe'n ymddiswyddo heddiw fel ni’n disgwyl iddo 'neud - dyw e ddim yn amlwg pwy fydd yn cymryd drosodd.

"Mae 'na reolau yn y blaid yn gwrthod ffigyrau yn San Steffan i fod yn arweinydd. Ma' Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod mo'yn sefyll fel Aelod Seneddol yn San Steffan dros Ynys Môn. Felly ‘ma fe'n anodd iawn gweld pwy fydd yr olynydd."

Ymateb

Wrth ymateb dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies fod "ymadawiad Adam Price yn foment o dristwch personol iddo".

"Yn dilyn yr adroddiad diweddar i’r diwylliant o fewn Plaid, daeth yn amlwg nad oedd gan wleidyddion Plaid Cymru hyder yn ei arweinyddiaeth, ac felly roedd ymadawiad Adam yn anochel," meddai.

"Ar lefel bersonol, rwy'n dymuno y gorau i Adam a’i deulu ar gyfer y dyfodol a gobeithio y caiff y gofod a’r amser i fyfyrio ar sut y gallai’r dyfodol hwnnw edrych."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.