Newyddion S4C

S4C

Dyn o Lerpwl yn pledio’n euog yn yr Unol Daleithiau i hacio cyfrifon Twitter

NS4C 10/05/2023

Mae dyn o Lerpwl wedi pledio’n euog yn Efrog Newydd i un o'r achosion hacio mwyaf yn hanes y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd dros 130 o gyfrifon eu hacio ar Twitter yng Ngorffennaf 2020, gan gynnwys rhai'r Arlywydd Joe Biden, a'r cyn arlywydd Barack Obama.

Plediodd Joseph James O'Connor, 23, sy'n cael ei adnabod fel PlugwalkJoe, yn euog i gyhuddiadau hacio sydd ag uchafswm dedfryd o dros 70 mlynedd yn y carchar. Cafodd ei estraddodi o Sbaen ar gyfer yr achos. 

Roedd yr hacio yn rhan o sgam Bitcoin.

Fe wnaeth O'Connor feddiannu nifer o gyfrifon Twitter ac anfon trydariadau yn gofyn i ddilynwyr anfon Bitcoin i gyfrif, gan addo dyblu eu harian.

Cafodd O'Connor ei gyhuddo ochr yn ochr â thri dyn arall. Plediodd Graham Ivan Clark  o Florida yn euog yn 2021. Cafodd Nima Fazeli o Florida, a Mason Sheppard, o Bognor Regis yn Lloegr, eu cyhuddo o droseddau ffederal.

Disgrifiodd Twrnai Cyffredinol Cynorthwyol yr Unol Daleithiau, Kenneth Polite Jr, weithredoedd O'Connor fel rhai "maleisus", gan ddweud ei fod wedi "aflonyddu a bygwth dioddefwyr, gan achosi niwed emosiynol sylweddol".

Yn 2020, amcangyfrifwyd bod 350 miliwn o ddefnyddwyr Twitter wedi gweld trydariadau amheus o gyfrifon swyddogol defnyddwyr mwyaf y platfform.

Cytunodd arbenigwyr seiber y gallai'r canlyniadau fod wedi bod yn llawer gwaeth pe bai gan O'Connor a hacwyr eraill gynlluniau mwy soffistigedig yn hytrach na  "chynllun dod yn gyfoethog yn gyflym."

Plediodd O'Connor hefyd yn euog i droseddau hacio eraill gan gynnwys cael mynediad i gyfrif TikTok proffil uchel.

Postiodd fideo i'r cyfrif hwnnw, lle mae ei lais ei hun yn amlwg, gan fygwth rhyddhau "deunydd sensitif, personol" yn ymwneud â pherchennog y cyfrif i bobl a ymunodd â grŵp Discord.

Dywedodd adran gyfiawnder yr Unol Daleithiau ei fod hefyd wedi defnyddio technoleg i stelcian plentyn.

Bydd O’Connor yn cael ei ddedfrydu ar 23 Mehefin.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.