Newyddion S4C

Plaid Cymru yn cyfarfod eto ddydd Mercher gyda dyfodol Adam Price yn y fantol

Adam Price

Bydd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru yn cynnal cyfarfod ddydd Mercher gyda dyfodol yr arweinydd Adam Price yn parhau yn y fantol.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid mai Adam Price oedd wedi galw'r cyfarfod.

"Mae Adam Price wedi galw cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol er mwyn trafod y camau nesaf ar gyfer y blaid," medden nhw.

Yn hwyr nos Fawrth, cyhoeddodd gwefan Nation.Cymru fod Adam Price wedi cytuno i ildio'r awenau, ond dyw Plaid Cymru ddim wedi cyhoeddi unrhyw ddatganiad am sefyllfa ei harweinydd. 

Ac ar raglen Sharp End, ITV Cymru, gofynwyd i gadeirydd grŵp y blaid yn y Senedd, Llŷr Gruffydd a oedd gan Adam Price gefnogaeth y grŵp o hyd. Atebodd nad oedd am fynd i drafodaeth o’r fath. 

Fe fu grŵp Seneddol Plaid Cymru yn cyfarfod nos Fawrth yn sgil adroddiad beirniadol a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, a ddaeth i'r casgliad bod angen ymateb ar fyrder i'r hyn gafodd ei alw yn "ddiwylliant gwenwynig" o fewn y blaid. Cafodd cyfarfod ei gynnal fore Mawrth hefyd.

Wedi i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi, dywedodd Adam Price ei fod yn benderfynol o aros wrth y llyw er mwyn cyflwyno newidiadau.

Roedd yr Aelod Seneddol ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts yn bresennol yn y cyfarfod nos Fawrth.

Y newyddiadurwr Martin Shipton sydd wedi cyhoeddi'r adroddiadau diweddaraf ar wefan Nation.Cymru. Tra'n siarad ar Radio Wales fore Mercher, dywedodd bod bobl a oedd yn y cyfarfod wedi bod yn siarad ag eraill, a dyma sut y cafodd wybod y manylion.

Ychwanegodd fod y grŵp yn y Senedd wedi trafod " nid a ddylai Adam Price adael - ond pryd y dylai fynd."   

'Rheolau'

Fe wnaeth y grŵp gyfarfod am tua awr a hanner nos Fawrth, ac ni wnaeth unrhyw aelod sylw wrth adael y cyfarfod.

Daw hyn yn dilyn canfyddiadau adolygiad a gafodd ei gynnal gan gyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru a'r cyn aelod o staff Nerys Evans o'r enw 'Prosiect Pawb'. 

Daeth yr adolygiad i'r casgliad fod Plaid Cymru wedi "methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol" a bod angen ymdrin â nifer o faterion Adnoddau Dynol "ar fyrder". 

Yn ogystal, mae'n honni fod staff y blaid wedi gweld "gormod o achosion o ymddygiad gwael gan aelodau etholedig yn cael eu goddef", ac nad ydyn nhw'n gweld diben codi pryderon.

Wrth i'r dyfalu ddwyshau am ddyfodol Arweinydd Plaid Cymru, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru nad yw hi'n amlwg pwy allai ei olynu : "Mae pwy bynnag bydd yn olynu Adam Price, os ma’ fe'n ymddiswyddo heddiw fel ni’n disgwyl iddo 'neud - dyw e ddim yn amlwg pwy fydd yn cymryd drosodd.

"Mae 'na reolau yn y blaid yn gwrthod ffigyrau yn San Steffan i fod yn arweinydd. Ma' Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod mo'yn sefyll fel Aelod Seneddol yn San Steffan dros Ynys Môn. Felly ‘ma fe'n anodd iawn gweld pwy fydd yr olynydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.