Cyhuddo dyn 48 oed o lofruddio menyw 46 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 48 oed o lofruddio menyw 46 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd corff Georgina Dowey ei ddarganfod mewn cyfeiriad ar Heol Beaconsfield yn Llangatwg ddydd Sul.
Mae Mathew Pickering wedi ei gyhuddo o lofruddio Ms Dowey, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae teulu Ms Dowey yn cael eu cefnogi gan swyddogion teulu arbenigol.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd, Matt Powell: "Mae fy meddyliau yn parhau gyda theulu Georgina sydd wedi eu llorio yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol ac i dystion am eu cefnogaeth yn yr ymchwiliad hyd yma."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300147389.