Rheithgor yn dyfarnu bod Donald Trump wedi camdrin dynes yn rhywiol yn y 90au

Mae rheithgor mewn achos sifil wedi dyfarnu bod Donald Trump wedi camdrin dynes yn rhywiol yn Efrog Newydd yn yr 1990au.
Bydd yn rhaid i'r cyn-arlywydd dalu cyfanswm o $5m i E Jean Carroll.
Fe wnaeth y rheithgor ganfod fod Mr Trump wedi camdrin y colofnydd cylchgrawn mewn canolfan siopa yn Manhattan.
Ond gwrthododd y rheithgor yr honiad fod Donald Trump wedi treisio E Jean Carroll.
Ar gyfrwng cymdeithasol yn Hydref 2022, dywedodd Donald Trump fod honiadau E Jean Carroll yn ffwlbri llwyr.
Penderfynodd y rheithgor fod yn rhaid iddo dalu $280,000 iddi am bardduo ei henw da yn sgil y sylw hwnnw.
Mae tîm Donald Trump wedi dweud y byddant yn apelio yn erbyn y dyfarniad.
Dyma'r tro cyntaf erioed i reithgor yn America ddyfarnu fod arlywydd wedi ymosod yn rhywiol.
Gan mai achos sifil oedd hwn, roedd modd i E Jean Carroll ddwyn achos iawndal yn erbyn Donald Trump.
Nid oedd modd i'r gwrandawiad ystyried cyfnod o garchar ar gyfer y cyn-arlywydd am nad oedd yn achos troseddol.