Llywodraeth San Steffan gyda 'agenda bwriadol i atal pleidleisio' medd Mark Drakeford

Mae Mark Drakeford wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o fod ag “agenda bwriadol i atal pleidleisio” yn dilyn adroddiadau bod pobol wedi eu troi i ffwrdd o flychau pleidleisio yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf oherwydd rheolau newydd am luniau adnabod.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth aelodau’r Senedd na fyddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r angen am ddangos lluniau adnabod gan bleidleiswyr ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau'r Senedd yng Nghymru.
Wrth ymateb i gwestiwn yn ystod cyfarfod llawn o'r Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Drakeford nad oedd twyll pleidleisio yn bodoli.
Honnodd fod y Blaid Geidwadol yn defnyddio tactegau asgell dde eithafol o’r Unol Daleithiau i'w “gwneud hi’n anoddach i bobl na fyddai efallai’n eu cefnogi i droi i fyny a bwrw eu pleidlais”.
Dywedodd yr aelod Ceidwadol Darren Millar ei fod wedi ei “ddrysu” gan safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater.
Roedd yn ofynnol i bleidleiswyr yn Lloegr i ddangos llun er mwyn casglu eu papur pleidleisio ar gyfer yr etholiadau lleol yno ddydd Iau.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi dadlau bod angen y newid er mwyn lleihau twyll etholiadol, ond mae’r cam wedi’i feirniadu’n eang.
Gorsafoedd pleidleisio
Yng Nghymru, bydd yn rhaid i bleidleiswyr ddangos llun adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau penodol, gan gynnwys etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, is-etholiadau seneddol y DU, ac etholiadau Cyffredinol y DU.
Ond ni fydd angen iddynt ddangos lluniau adnabod i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu etholiadau cynghorau lleol gan fod y pwerau dros y systemau pleidleisio hynny wedi’u datganoli.
Dywedodd Mr Drakeford: “Roedd cadeirydd y Comisiwn Etholiadol ei hun yn dyst i bobl yn cael eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio ac yn bryderus iawn gwelodd y bobl hynny rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw i gynnal etholiadau yn dioddef camdriniaeth gan bobl a oedd yn teimlo eu bod wedi cael eu gwrthod yn annheg o'u hawliau democrataidd.
“Does gen i ddim amheuaeth o gwbl fod y Ddeddf honno’n rhan o agenda fwriadol i atal pleidleiswyr sy’n cael ei dilyn gan y llywodraeth Geidwadol.
“Y ffordd maen nhw’n meddwl y gallan nhw ennill etholiadau yw dysgu’r gwersi o’r dde eithafol yn yr Unol Daleithiau, a hynny er mwyn ei gwneud hi’n anoddach i bobl na fyddai efallai’n eu cefnogi i droi i fyny a bwrw eu pleidlais.
“Ni fyddwn yn dilyn y trywydd hwnnw o weithredu yma yng Nghymru. Mae ein polisïau wedi’u cynllunio i’w gwneud hi’n haws i bobl fwrw eu pleidlais, nid yn anoddach,” ychwanegodd.
Dywedodd Mr Millar: “Mae hyn yn ymwneud â diogelwch ac uniondeb ein hetholiadau. Gwyddom mai lluniau pleidleisiwr ledled gorllewin Ewrop yw’r norm, ac yn y rhan fwyaf o ddemocratiaethau gorllewinol dyma’r norm.
“Ond mae’n ymddangos bod gennych chi broblem ag ef, efallai oherwydd record eich plaid eich hun ar achosion o dwyll sydd wedi digwydd mewn ardaloedd Llafur, fel twyll Tower Hamlets, twyll Birmingham hefyd, nôl yn 2004.”