Taliadau rheolaidd i Netflix 'o fudd i'r rhai sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf'

Gallai taliadau rheolaidd i wasanaethau fel Netflix neu Spotify fod o fudd i'r rhai sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf.
Daw hyn yn sgil partneriaeth ar y cyd rhwng y Leeds Building Society a chwmni Experian.
Byddai'r 12 mis blaenorol o daliadau debyd rheolaidd, gan gynnwys treth y cyngor neu danysgrifiadau i wasanaethau adloniant fel Netflix neu Spotify, yn gallu cyfrannu at sgôr credyd a dylanwadu ar geisiadau morgais gyda'r cwmni.
Daw hyn wedi i'r Skipton Building Society gyhoeddi cynllun morgais heb flaendal ddydd Mawrth, wedi ei anelu at bobl sy'n awyddus i brynu tŷ am y tro cyntaf.
Dywedodd Skipton y byddai tenantiaid sy'n 21 oed a throsodd yn gallu sicrhau morgeisi o rhwng 95% i 100% o werth yr eiddo y maen nhw eisiau ei brynu.
Mae gan y Leeds Building Society fwy na 800,000 o gwsmeriaid, a'r llynedd mae'n dweud iddo gynorthwy 18,000 o bobl i brynu tŷ.
'Helpu pobl ifanc'
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Richard Fearon, y byddai'r cynllun newydd yn "helpu pobl ifanc sydd yn prynu tŷ am y tro cyntaf ac unrhyw un sydd ar incwm is sydd yn wynebu heriau i brofi eu gallu nhw i ad-dalu.
"Yn aml, mae'r grwpiau hyn yn ei chael hi'n anodd i adeiladu sgôr credyd da, a hynny oherwydd bod angen iddyn nhw wario'r rhan fwyaf o'u henillion ar rent a thaliadau rheolaidd eraill."
Ychwanegodd rheolwr gyfarwyddwr Experian, Sigga Sigurdardottir, fod "ein partneriaeth ni gyda'r Leeds Building Society yn cefnogi syniad Experian ymhellach sef i wella cynhwysiant ariannol ein defnyddwyr."
Mae ffactorau eraill hefyd yn cael eu hystyried wrth asesu cais morgais unigolyn, gan gynnwys incwm, statws cyflogaeth a sefydlogrwydd ariannol.