Beiciwr modur yn dioddef 'anafiadau difrifol' ar yr A470 yn Nolwyddelan
Mae beiciwr modur wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Nolwyddelan, Sir Conwy ddydd Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 14:00 yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng beic modur a char Ford Fiesta du ar ffordd yr A470 ger Castell Dolwyddelan.
Aeth y gwasanaethau brys, gan gynnwys ambiwlans awyr i gynorthwyo yn y digwyddiad.
Cafodd y beiciwr modur ei gludo i ysbyty yn Stoke gan yr ambiwlans awyr ac mae ei anafiadau wedi eu disgrifio fel rhai all newid ei fywyd.
Ni chafodd gyrrwr y Ford Fiesta unrhyw anafiadau.
Dywedodd Sarjant Jason Diamond o Uned Blismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd eu bod yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad neu oedd yn teithio ar yr A470, a gyda delweddau dashcam i gysylltu gyda'r llu.
"Rwyf hefyd yn apelio ar i unrhyw un oedd wedi gweld dau feic modur yn cael eu gyrru gan yrwyr gyda helmedau du a lifrau gyrru lledr du, oedd yn teithio rhwng Betws-y-coed a Dolwyddelan i gysylltu gyda ni."
Mae'r ffordd bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad.