Apêl yn dilyn lladrad gwerth £3500 o nwyddau o archfarchnad yn y canolbarth

Mae swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi llun o ddau ddyn sydd o ddiddordeb i'w hymchwiliad i ladrad gwerth £3,500 o nwyddau o archfarchnad yn Llandrindod.
Digwyddodd y lladrad yn archfarchnad Tesco ar Ffordd Waterloo yn y dref rhwng 16.30 a 16.40 ar ddydd Iau, 20 Ebrill.
Yn ystod y digwyddiad fe gafodd cynhyrchion gofal croen, cynhyrchion lliw haul, profion beichiogrwydd a gwadnau mewnol ar gyfer esgidiau eu dwyn.
Mae'r llu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod DPP/3256/20/04/2023/02/C.