Caniatáu lorïau hirach ar lonydd Prydain

Bydd lorïau hirach yn cael eu caniatáu ar ffyrdd Prydain er mwyn sicrhau y gall mwy o nwyddau gael eu cario ar lai o deithiau.
Cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth San Steffan y bydd lorïau hyd at 61 troedfedd, sydd chwe troedfedd a naw modfedd yn hirach na'r maint arferol, yn cael defnyddio ffyrdd Prydain o 31 Mai.
Ond mae pryderon am y risg i gerddwyr a beicwyr yn ogystal â'r difrod posib i seilwaith ffyrdd.
Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth y byddai'r lorïau newydd yn gallu symud yr un maint o nwyddau ag y mae lorïau presennol yn ei wneud, ond mewn 8% yn llai o deithiau.
Mae profion 11 mlynedd wedi profi bod lorïau hirach yn ddiogel i gael eu defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus, yn ôl yr Adran Drafnidiaeth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ffyrdd Richard Holden y byddai'r "cerbydau newydd yma yn darparu bron i £1.4 biliwn o hwb i'r diwydiant cludiant, a bydd hefyd yn lleihau tagfeydd. Bydd llai o allyriadau a bydd yn gwella diogelwch ffyrdd y DU."
Bydd lorïau hirach yn wynebu'r un cyfyngiad pwysau â lorïau presennol, sef 44 tunnell.