Newyddion S4C

Dim camau yn erbyn yr heddlu am ddatgelu gwybodaeth yn achos diflaniad Nicola Bulley

09/05/2023
Nicola Bulley

Ni fydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cymryd unrhyw gamau yn erbyn Heddlu Sir Gaerhirfryn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am Nicola Bulley, y fam aeth ar goll ar ddechrau'r flwyddyn.

Mewn diweddariad ddydd Mawrth, dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu hefyd fod eu hymchwiliad i gysylltiad swyddogion â Ms Bulley cyn iddi ddiflannu wedi nodi dwy wers i'w dysgu.

Daeth y llu o dan feirniadaeth sylweddol ar ôl i gorff y ddynes 45 oed gael ei dynnu o Afon Wyre yn Sir Gaerhirfryn ar 19 Chwefror, fwy na thair wythnos ar ôl iddi gael ei gweld ddiwethaf ar 27 Ionawr.

Fe leisiodd aelodau seneddol a grwpiau ymgyrchu eu hanfodlonrwydd ar ôl i’r heddlu ddatgelu elfennau o’i bywyd preifat yn gyhoeddus yn ystod yr ymchwiliad – gan gynnwys ei thrafferthion gydag alcohol.

Ond dywedodd yr heddlu fod Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cwblhau ei ymchwiliad ac wedi hysbysu'r heddlu na fyddai'n cymryd unrhyw gamau pellach.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y sir, Andrew Snowden, fod yr adolygiad annibynnol sy’n cael ei gynnal gan y Coleg Plismona i’r modd yr ymdriniodd yr heddlu â’r achos ar y gweill – gyda chanfyddiadau ac argymhellion i’w cyhoeddi yn yr hydref.

Wrth gyhoeddi eu casgliadau ddydd Mawrth, dywedodd dirprwy gomisiynydd polisi rheoleiddio Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Emily Keaney: “Roedd hwn yn ddarn pwysig o waith o amgylch achos uchel ei sylw.

“Roedden ni eisiau rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod yna reolau mewn lle i ddiogelu sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio a’i rhannu, ac roedden ni eisiau bod yn glir er y gall yr heddlu ddatgelu gwybodaeth i amddiffyn y cyhoedd ac ymchwilio i drosedd, byddai angen iddyn nhw allu dangos bod datgeliad o’r fath yn angenrheidiol ac yn gymesur.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.