Digwyddiad yn ymwneud 'â chemegau wedi gollwng' ym Mhrifysgol Caerdydd
Digwyddiad yn ymwneud 'â chemegau wedi gollwng' ym Mhrifysgol Caerdydd

Cyhoeddod Prifysgol Caerdydd fod y gwasanaethau brys wedi eu galw i brif adeilad y campws ddydd Mawrth, a'u bod ym ymwybodol fod "cemegau wedi gollwng yno."
Yn ôl y brifysgol, roedd y digwyddiad wedi ei gyfyngu i'r safle penodol hwnnw, ond cafodd yr adeilad cyfan ei gau dros dro, a bu'n rhaid symud pawb oedd yno o'r adeilad.
Ychwanegodd Prifysgol Caerdydd nad oedd adroddiadau fod unrhywun wedi ei anafu, ond bod nifer fechan o bobl wedi cael eu harchwilio gan barafeddygon, sy'n drefn arferol yn y fath amgylchiadau.
Fe alwodd Heddlu De Cymru ar y cyhoedd i osgoi'r ardal ym Mhlas y Parc. A bu'n rhaid cau'r ffordd gerllaw.
Cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd nos Fawrth bod y Prif Adeilad bellach wedi ail agor i staff a myfyrwyr.