Llong fydd yn gartref i 500 o geiswyr lloches wedi cyrraedd Cernyw

Mae llong fydd yn gartref i 500 o geiswyr lloches wedi cyrraedd Cernyw, lle bydd yn cael ei hailwampio ar gyfer ei gosod mewn lleoliad newydd.
Yn ôl adroddiad yn The Times, ni fydd y porthladd ble bydd llong y Bibbly Stockholm yn ymgartrefu, sef Portland, yn rhyddhau manylion amserlen docio llongau er mwyn osgoi protestiadau asgell dde.
Mae disgwyl i'r llong gael ei hangori yn y porthladd yn Dorset yn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd The Times fod y porthladd fel arfer yn cyhoeddi'r amseroedd mae llongau yn cyrraedd a gadael, ond mae amserlen y llong yma wedi cael ei symud oddi ar eu gwefan.
Mae'r llong yn rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i symud ceiswyr lloches i ffwrdd o dderbyn llety mewn gwestai.
Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae cartrefu ceiswyr lloches yn costio £6 miliwn y diwrnod i drethdalwyr.
Pan gafodd y cynlluniau eu cyhoeddi i ddefnyddio'r llong, dywedodd y Gweinidog Mewnfudo Robert Jenrick bod "rhaid defnyddio opsiynau llety amgen."
“Ni fyddwn yn dyrchafu buddiannau mewnfudwyr anghyfreithlon dros y bobl Brydeinig yr ydym yn cael eu hethol i’w gwasanaethu.
“Rhaid i ni ddefnyddio opsiynau llety amgen, fel y mae ein cymdogion Ewropeaidd yn ei wneud – gan gynnwys defnyddio cychod a llongau fferi – i arbed arian i drethdalwyr Prydain ac i atal y DU rhag dod yn fagnet i geiswyr lloches yn Ewrop.
“Bydd y llety yn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol ac fe fyddwn ni’n gweithio’n agos gyda’r gymuned leol i fynd i’r afael â’u pryderon, gan gynnwys trwy gymorth ariannol,” meddai.
Llun: PA