Lionel Messi yn 'symud i Saudi Arabia' i chwarae pêl-droed

Fe fydd Lionel Messi yn gadael clwb bêl-droed Paris St Germain er mwyn chwarae yn Saudi Arabia y tymor nesaf, yn ôl adroddiadau.
Mae adroddiadau yn Ffrainc yn awgrymu y bydd Messi, sydd yn cael ei ystyried fel un o bêl-droedwyr gorau yn hanes y gamp, yn chwarae i glwb Al-Hilal y tymor nesaf ar ôl arwyddo cytundeb gwerth £522 miliwn.
Os bydd yn symud, byddai Messi, 35, yn ymuno â thîm sydd yn cael eu hystyried fel prif wrthwynebwyr tîm Al-Nassr, sef y clwb y mae Cristiano Ronaldo bellach yn chwarae drosto.
Mae cytundeb Messi, a enillodd Gwpan y Byd gyda'r Ariannin fis Tachwedd y llynedd, gyda Paris St Germain yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin.
Cafodd Messi ei wahardd gan y clwb o Ffrainc yn ddiweddar, ar ôl mynd ar drip i Saudi Arabia heb ganiatâd.
Mae’r cyn chwaraewr i Barcelona yn llysgennad ar gyfer cais y wlad i gynnal Cwpan y Byd FIFA 2030 yno.