Newyddion S4C

Vladimir Putin yn dweud bod y byd 'ar drobwynt' wrth i'r rhyfel rhwng Rwsia a Wcráin barhau

09/05/2023
Vladimir Putin

Mae Vladimir Putin wedi dweud bod y byd "ar drobwynt" wrth i'r rhyfel rhwng Rwsia a Wcráin barhau.

Fe wnaeth Putin annerch ei wlad yng ngorymdaith Diwrnod Buddugoliaeth yn Moscow ddydd Mawrth, diwrnod sydd yn dathlu ac arddangos y fyddin yn Rwsia.

Mae 15 mis ers cychwyn y frwydr rhwng Rwsia a Wcráin bellach, ac mae Putin yn dweud bod y rhyfel "ar drobwynt" erbyn hyn.

Ychwanegodd fod "rhyfel go iawn yn erbyn Rwsia" ac yn cyhuddo gwledydd y Gorllewin o "gythruddo ymladd... annog Russophobia a chenedlaetholdeb."

Wrth annerch ei wlad o flaen cadfridogion y fyddin ac Arlywydd Belarus, Alexander Lukashenko, dywedodd Putin ei fod yn falch o'r ymdrech mae'r fyddin wedi rhoi i'r "ymgyrch arbennig" yn Wcráin.

Yn dilyn munud o dawelwch, dywedodd Putin: "Rydyn yn dilyn camau ein hynafiaid.

"Rydym yn falch iawn o'r rheiny sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch arbennig, rheiny sydd yn ymladd ar flaen y gad ac yn achub y rhai sydd wedi eu hanafu.

"Mae'r wlad i gyd wedi dod at ei gilydd i gefnogi ein harwyr, mae pawb eisiau helpu, mae pawb yn gweddïo drosoch chi."

Llun: Sky News

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.