Heddlu yn ymateb i adroddiadau am argyfwng meddygol ger Traphont Ddŵr Y Waun

Fe wnaeth yr heddlu ac ambiwlans awyr ymateb i adroddiadau am argyfwng meddygol ger Traphont Ddŵr Y Waun yn Sir Wrecsam ddydd Llun.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru, y gwasanaethau brys a'r gwasanaethau tân eu galw i'r draphont ddŵr yn hwyr y prynhawn.
Cafodd yr ambiwlans awyr ei alw hefyd o'r Trallwng. Roedd tagfeydd yn yr ardal ond ni chafodd unrhyw ffyrdd eu cau.
Tua 18:00, cyhoeddodd yr heddlu bod y gwasanaethau brys wedi gadael y safle.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Jon Bowcott: “Fe wnaeth swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â chydweithwyr o’r gwasanaethau brys o Gymru a Lloegr y prynhawn yma ymateb i argyfwng meddygol yng nghyffiniau Traphont Ddŵr y Waun.
"Mae’n ddealladwy bod y gweithgaredd yn yr ardal wedi creu diddordeb a phryder cyhoeddus sylweddol. Mae gweithrediadau ar y safle bellach wedi dirwyn i ben, a hoffwn roi sicrwydd i bobl na fu erioed fygythiad i’r cyhoedd yn ehangach ac nad oes unrhyw faterion parhaus o bryder ychwaith."