Enwi’r dyn a saethodd wyth o bobl yn farw yn yr UDA

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai Mauricio Garcia yw enw'r dyn a saethodd wyth o bobl yn farw mewn canolfan siopa yn nhalaith Texas yn America ddydd Sadwrn.
Cafodd Garcia, 33 oed, ei saethu’n farw gan swyddog yr heddlu oedd yn ninas Allen, ger Dallas.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i gymhellion Garcia a chysylltiadau posibl â'r asgell-dde eithafol.
Mae hynny yn destun ymchwiliad am fod darn o ddeunydd yr oedd yr ymosodwr yn ei wisgo yn cynnwys y llythrennau ‘RWDS’ arnynt, a rheiny’n sefyll am ‘Right Wing Death Squad’, sef grŵp Neo-Natsïaidd.
Roedd Garcia, o Dallas, hefyd yn gwisgo offer ymladd amddiffynnol a defnyddiodd reiffl AR-15 yn ystod yr ymosodiad.
Yn ôl adroddiadau, mae nifer o blant ymhlith y rhai a fu farw.
Roedd tri o bobl yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ddydd Sul.