22 o bobl yn boddi yn India wrth i gwch droi drosodd

Mae o leiaf 22 o bobl wedi boddi yn Kerala, India ar ôl i gwch droi drosodd yn y dŵr.
Yn ôl yr awdurdodau yn lleol, fe wyrodd y cwch tra'n orlawn, ac yn cludo oddeutu 40 o bobl, y mwyafrif ohonynt yn blant.
Fe ddigwyddodd yn nhref arfordirol Tanur yn ardal Malappuram am 19.00 amser lleol ddydd Sul.
Yn ôl gweinidog chwaraeon a physgodfeydd y dalaith, V Abdurahiman, roedd y rhan fwyaf o'r bobl ar y cwch yn blant am ei bod yn gyfnod gwyliau ysgol.
Mewn diweddariad ddydd Sul, dywedodd y gweinidog ei fod yn disgwyl i’r nifer sydd wedi marw gynyddu, am fod y cwch wedi mynd yn sownd mewn dŵr mwdlyd, gydag ymdrechion i achub pobl y tu mewn i'r cwch yn parhau.