
Galar dwy ferch a gollodd eu mam i drais domestig “arswydus”

Mae dwy chwaer wedi disgrifio’r boen o wylio eu mam yn dioddef o drais domestig, cyn iddi hi gael ei llofruddio gan ei phartner.
Bu farw Helen Bannister o anafiadau i’w hymennydd fis Rhagfyr ar ôl dioddef blynyddoedd “arswydus” o gamdriniaeth gan ei phartner Jonathan Campbell.
Ar 1 Rhagfyr 2020, ymosododd Campbell, o ardal Mayhill yn Abertawe, ar Ms Bannister cyn ei gadael hi yn anymwybodol ar soffa a mynd allan i yfed.
Yna fe aeth ati i’w dadwisgo tra’r oedd hi’n anymwybodol, cyn mynd i westy lleol gyda menyw arall.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Campbell wedi ei weld ar gamera cylch cyfyng yn cerdded o amgylch marina Abertawe yn “ysmygu canabis ac yfed alcohol”, cyn galw 999 i gyfaddef i’r hyn yr oedd wedi ei wneud i Ms Bannister.
Dywedodd yn yr alwad ffôn fod ei bartner yn “outers ar y soffa”.

Pan gyrhaeddodd gwasanaethau brys y tŷ, roedd Ms Bannister yn anymwybodol ac roedd angen gofal meddygol brys arni.
Dywedodd un o ferched Ms Bannister, Stacey Harris, wrth ITV Cymru y byddai ei mam yn dal yn fyw heddiw pe bai Campbell wedi galw 999 yn syth.
Bu farw Ms Bannister yn yr ysbyty chwe diwrnod wedi’r ymosodiad.
Dedfrydwyd Campbell i ddedfryd o oes yn y carchar wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Stacey a Sarah Davies bod eu mam yn “amhosib i’w hadnabod” pan welon nhw hi yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad.
“Cwympais i i’r llawr. Rhybuddion nhw fi, a dweud i mi ei bod hi wirioneddol wedi chwyddo,” meddai Stacey.
“Dywedon nhw, ‘Dwyt ti ddim am ei hadnabod hi, mae ganddi hi anafiadau hynod o wael,’ ond roedd yr holl beth yn aneglur. Rwy’n cofio’r nyrs yn cerdded law-yn-llaw gyda fi, ac yr eiliad gwelais i hi cwympais i’n ddarnau. Doeddwn i ddim yn adnabod fy mam.”
Dioddefodd Ms Bannister flynyddoedd o gamdriniaeth gan Campbell ar ôl iddynt gwrdd arlein yn 2014.
Ym Mai 2019, derbyniodd Stacey a Sarah alwad yn dweud bod angen iddyn nhw gyrraedd tŷ eu mam yn syth.
Pan gyrhaeddon nhw, roedd hi wedi ei gorchuddio â phetrol.
Roedd Campbell wedi tywallt petrol drosti ac yn bygwth rhoi’r tŷ ar dân.
Arestiwyd Campbell a’i gyhuddo o affräe.

Ond nid dyma oedd y tro cyntaf na’r diwethaf y byddai Ms Bannister yn dioddef trais gan Campbell.
Mae Stacey yn cofio dweud wrth ei mam y byddai hi’n “diweddu lan mewn body bag” y tro nesaf roedd ef yn ei chyffwrdd.
Ni welodd y merched eu mam yn fyw wedi hyn.
Wedi blynyddoedd o wylio eu mam yn troi’n ddioddefwraig o drais domestig, mae’r chwiorydd nawr yn siarad allan.
“Ni ddylai unrhyw un ddioddef tu ôl i ddrysau clô fel wnaeth ein mam ni.”
Rhoddwyd dedfryd o fywyd yn y carchar i Jonathan Campbell, 37, ar 17 Mai yn Llys y Goron Abertawe am lofruddiaeth Helen Bannister.
Bydd yn treulio o leiaf 18 mlynedd dan glo.
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt o Heddlu De Cymru, na ddylai unrhyw berson orfod dioddef y fath camdriniaeth.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn cynnig rhyw gysur i deulu Helen, er fy mod i’n cydnabod na all unrhyw gyfnod yn y carchar eu digolledu yn llawn am y fath golled.
“Hoffwn i ddiolch i deulu a ffrindiau Helen, yn enwedig ei merched Stacey a Sarah am eu cymorth, yn ogystal â chymuned Waun Wen, Abertawe. Mae’r help roddon nhw i’r tîm ymchwiliadau wedi sicrhau'r erlyniad a’r euogfarn lwyddiannus hon.
“Mae Heddlu De Cymru yn benderfynol o daclo trais domestig a hoffwn i annog unrhyw un sydd yn dioddef o drais domestig i fynd at yr heddlu. Rydyn ni’n cydnabod nad yw pob dioddefwr o drais domestig yn dioddef o anafiadau corfforol. Maen nhw’n dioddef o’r bygythiad a’r ofn o gael eu brifo, bygythiadau dyddiol, ac yn cael eu bywydau wedi eu monitro a’u rheoli.”