300 drôn yn hedfan uwchben Caerdydd ar gyfer sioe cyngerdd y Coroni heno

Bydd 300 o ddronau yn hedfan uwchben Caerdydd yn rhan o gyngerdd y Coroni nos Sul.
Bydd y dronau yn hedfan uwchben Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd yn ystod y gyngerdd yn Windsor sy’n dechrau am 20:00.
Bydd y Brenin Charles a’r Frenhines Camilla yn ymuno â thua 20,000 o aelodau’r cyhoedd yn y cyngerdd er mwyn gwylio perfformiadau sêr gan gynnwys Bryn Terfel.
Bydd Syr Tom Jones hefyd yn ymddangos er mwyn rhoi neges fideo.
Yng Nghymru bydd digwyddiad ar Plas Roald Dahl o flaen Canolfan y Mileniwm er mwyn nodi’r achlysur.
Dywedodd Cyngor Caerdydd y bydd sgrîn fawr a bwyd a diod ar gael yno.
“Yna edrych i'r awyr ar gyfer uchafbwynt y noson, wrth i Gaerdydd ymuno â lleoliadau ar draws y Deyrnas i 'Oleuo'r Deyrnas' gyda sioe oleuadau drochi,” medden nhw.
“Fe fydd yn cynnwys fflyd o 300 o ddronau yn hedfan yn uchel uwchben adeiladau eiconig Bae Caerdydd.”