Disgwyl y bydd ysgol Gymraeg newydd yng Ngheredigion yn cael sêl bendith
Mae disgwyl y bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Ngheredigion yn cael sêl bendith yr wythnos nesaf.
Y bwriad yw adeiladu Ysgol Dyffryn Aeron ar safle ger Felin-fach rhwng Aberaeron a Llambed.
Mae swyddogion cynllunio Ceredigion wedi argymell adeiladu’r ysgol £11m a bydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn pleidleisio ar y mater ddydd Mercher.
Fe fydd lle ar gyfer 240 o ddisgyblion a 56 o staff dysgu yn yr ysgol a fydd yn cael ei hadeiladu gan Wynne Construction.
Y bwriad yw bod ysgolion Ciliau Parc, Felin-fach a Dihewyd yn cau er mwyn ffurfio’r ysgol newydd.
Dywedodd yr asiant TACP Architects Ltd, mewn datganiad i’r cyngor y bydd y datblygiad “yn dod â safon yr ystafelloedd addysgu sydd ar gael yn Nyffryn Aeron i fyny i safonau ysgolion yr 21ain Ganrif”.
“Bydd hefyd yn darparu ysgol ddi-garbon net, gan gyfrannu at ymdrechion Cyngor Ceredigion i ddarparu awdurdod di-garbon erbyn 2030.
“Bydd y datblygiad hwn hefyd yn ceisio cryfhau cysylltiadau â’r gymuned leol drwy ymgorffori cyfleusterau sydd o fudd i’r ysgol a’r gymuned.”