Beirniadu’r heddlu yn dilyn arestio protestwyr y coroni

Mae Heddlu’r Met wedi dweud eu bod nhw’n “deall pryder y cyhoedd” ar ôl i swyddogion arestio 52 o bobl yn ystod diwrnod y coroni.
Cafodd y llu eu beirniadu yn dilyn yr hyn ddywedodd grwpiau ymgyrchu oedd arestiadau “brawychus” yn ystod protestiadau gweriniaethol.
Dywedodd grŵp Human Rights Watch fod hyn yn “rhywbeth fyddech chi’n disgwyl yn Moscow nid Llundain”.
Cafodd protestwyr o grŵp Republic eu harestio gan gynnwys eu prif weithredwr Graham Smith.
'Amharu'
Dywedodd Heddlu’r Met eu bod nhw wedi derbyn gwybodaeth fod y protestwyr yn bwriadu amharu ar y coroni ond dywedodd ymgyrchwyr fod y protestiadau yn “heddychlon” gan ddisgrifio’r arestiadau fel “cynsail beryglus i ni fel cenedl ddemocrataidd”.
Mae’r llu wedi cadarnhau fod nifer o brotestwyr grŵp Just Stop Oil wedi eu harestio ar draws y ddinas a’u bod nhw’n dal i fod yn y ddalfa fore dydd Sul.
Dywedodd grŵp Animal Rising fod nifer o’u haelodau wedi eu harestio mewn sesiwn ymarfer “milltiroedd i ffwrdd o’r coroni”.
Mewn datganiad ychwanegodd Heddlu’r Met: “Mae protestio yn gyfreithlon ond yn medru amharu.
"Mae gennym ni hefyd ddyletswydd i ymyrryd pan mae protestio yn troi’n droseddol a pan y gallai achosi aflonyddwch sylweddol. Mae hyn yn dibynnu ar y cyd-destun.
"Mae’r coroni yn ddigwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth ac mae hynny yn brif ystyriaeth yn ein hasesiad."
Llun: Labour for a Republic / PA.