Geraint Thomas yn y nawfed safle ar ôl cymal cyntaf y Giro d’Italia

Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi gorffen cymal cyntaf ras y Giro d’Italia yn y nawfed safle.
Fe gwblhaodd Thomas y cwrs 19.6 cilomedr yn erbyn y cloc mewn amser o 22:13 o funudau, 55 eiliad tu ôl i enillydd y cymal Remco Evenepoel o Wlad Belg.
Fe ddaeth y Cymro Cymraeg Stevie Williams o Aberystwyth yn yr 97fed safle gydag amser o 24:02
Fe fydd ail gymal y ras ddydd Sul dros 202 cilomedr o Teramo i San Salvo.
Ar ddiwedd y cymal dywedodd Geraint Thomas: "Nes i ddechrau’n rhy galed a wedyn nes i geisio cadw rhwbeth ar gyfer y ddringfa ar y diwedd.
"Mae’n ddechrau cymedrol a nes i geisio lleihau'r amser nes i golli ond mae’n dda i ddechrau’r ras."
Dywedodd Stevie Williams; "Neis i gael e allan o'r ffordd. Diwrnod caled, cymal neis i ddechrau.
"Roedd y nerfau yna ond mae nhw wedi mynd a chadw fynd nawr.
"Bydd cymal fory yn sbrint siwr o fod. Cymal hir ac ar bapur mae'n gymal straighforward ond pwy sy'n gwybod."
Llun: Instagram/Ineos Grenadiers