Newyddion S4C

Protestiadau yng Nghaernarfon a Chaerdydd yn erbyn coroni Charles III

06/05/2023
Protest Cearnarfon

Cafodd protestiadau gweriniaethol eu cynnal yng Nghaernarfon a Chaerdydd yn erbyn coroni'r Brenin Charles III ddydd Sadwrn.

Ymgasglodd dwsinau o brotestwyr mewn protest Nid Fy Mrenin I gan Republic Cymru y tu allan i Gastell Caerdydd yn dilyn seremoni’r coroni.

Cynhaliwyd protest fechan ar y bont o flaen Castell Caernarfon yn ogystal.

Dywedodd Kev O’Connor, 40 oed o Aberpennar, ei fod yn cymryd rhan yn y brotest wrth-frenhiniaeth yng Nghaerdydd gyda’i fab Gruffudd, 12, a’i ferch Gwenllian, 14, er mwyn ymgyrchu dros ddemocratiaeth.

“Rydw i yma heddiw oherwydd rydyn ni i fod yn wlad fodern yn yr 21ain ganrif ac nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i ni fod yn rhoi arian i bobl sydd â biliynau o bunnoedd yn barod,” meddai.

“Dylen ni fyw mewn democratiaeth iawn heb frenhiniaeth. Dw i’n meddwl bod hynny’n deimlad eitha’ cryf yma yng Nghymru, yn gryfach nag erioed o’r blaen.”

Image
Protest yng Nghaerdydd
Llun gan PA/ Bronwen Weatherby.

'Newynu'

Dywedodd yr athrawon wedi ymddeol John a Tracy o’r Fenni, oedd yn y brotest yng Nghaerdydd, fod faint o arian oedd wedi ei wario ar y Coroni yn gwneud iddyn nhw “deimlo’n sâl”.

“Mae’n warthus,” medda Tracy, nad oedd am roi ei chyfenw. “Hollol warthus.

“Mae yna blant sydd yn gorfod mynd i fanciau bwyd a bron a newynu mewn ysgolion.

“Rydyn ni wedi gwylio plant sy’n mynd i mewn i’r gwasanaethau cymdeithasol ac sydd â’r math gwaethaf o fywydau y gallwch chi eu dychmygu.”

Llun gan Elen Wyn / rhaglen Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.