Newyddion S4C

S4C

Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi nad yw Covid-19 bellach yn argyfwng iechyd byd-eang

NS4C 05/05/2023

Mae swyddogion o Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi nad yw Covid-19 bellach yn argyfwng iechyd byd-eang.

Yn dilyn cyfarfod ddydd Iau, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y Sefydliad, Tedros Adhanom Ghebreyesus fod yr haint wedi dod i ben fel argyfwng byd-eang, er bod angen parhau i fod yn wyliadwrus i'r dyfodol.

Fe wnaeth hefyd nodi fod nifer y marwolaethau a’r derbyniadau i ysbytai sydd yn cael eu hadrodd yn wythnosol yn parhau i ostwng, ond fe leisiodd bryder bod adroddiadau gwyliadwriaeth gan wahanol wledydd i Sefydliad Iechyd y Byd "wedi gostwng yn sylweddol", a bod "blinder pandemig" yn parhau i dyfu.

Ychwanegodd fod un farwolaeth o ganlyniad i Covid-19 wedi digwydd bob tri munud ar draws y byd yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae chwe miliwn o bobl wedi marw yn fyd-eang ers dechrau'r pandemig ym mis Mai 2020.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.